Yn berffaith fel cwrs cyntaf ysgafn cyn cinio Nadolig moethus, mae eog wedi’i gochi ar gael yn hawdd mewn pecynnau bach sy'n golygu y gallwch chi sicrhau nad ydych chi'n prynu mwy nag sydd ei angen arnoch chi.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauPliciwch y winwnsyn a’i sleisio’n ei hanner, ac yna ychwanegu’r clof.
Rhowch y winwnsyn, y ddeilen llawryf, y clof a’r llaeth mewn sosban a’i ferwi’n araf, gan ei droi weithiau fel nad yw’n llosgi ac yna ei dynnu oddi ar y gwres a gadael iddo oeri am 15 munud.
Tynnwch y winwnsyn, y ddeilen llawryf a’r clof o’r llaeth wedi’i oeri, a throi’r briwsion bara i mewn i’r gymysgedd.
Dychwelwch y sosban ar y gwres a’i goginio’n ysgafn am 5-10 munud, gan ei droi weithiau tan fod y briwsion bara wedi amsugno’r holl hylif. Os yw’r saws ychydig yn rhy denau at eich dant, mae’n bosibl ychwanegu mwy o friwsion bara i gyflawni’r gwead dymunol.
Ychwanegwch y menyn ac ychwanegu blas gyda halen, pupur a nytmeg.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.