Skip page header and navigation

Pei pysgod Masala

Pei pysgod Masala

Mae'n rhaid i chi roi cynnig ar y pryd hwn! Mae mor hawdd i'w wneud, mor flasus ac yn arogli'n anhygoel! Mae'r stwnsh tyrmerig a saffrwm nid yn unig yn edrych ac yn blasu'n wych ond mae'n ddelfrydol i ddefnyddio tatws. Mae cynhyrchion wedi'u rhewi fel ffiled pysgod a sbigoglys a ddefnyddir yma yn ffordd ddefnyddiol iawn o leihau gwastraff gan mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi y byddwch chi'n ei gymryd.
Gan Imran Nathoo
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Pastai bysgod masala euraidd gyda thatws ar ei phen mewn dysgl ceramig

Cynhwysion

2 lwy fwrdd o olew hadau rêp
2 genhinen – wedi’u torri ar eu hyd a'u sleisio'n fân
8 dail cyri ffres (gellir defnyddio rhai wedi'u sychu)
1 tsili gwyrdd cyfan
¼ llwy de o hadau mwstard du
¼ llwy de o hadau ffenigrig
¼ llwy de o bowdr tsili coch
½ llwy de o dyrmerig
1 llwy de garam masala
1 llwy de o arlleg a phast sinsir
250ml o passata
100ml o laeth cnau coco
5 ffiled pysgodyn wedi'u rhewi
3 bloc o sbigoglys wedi'i rewi
Llond llaw fach o goriander – wedi'i dorri'n fân
1kg o datws – wedi'u plicio a'u chwarteru
Menyn heb halen
Pinsiad o saffrwm
Blawd corn
Halen môr mân i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Ffriwch y cennin gyda 2 lwy fwrdd o olew hadau rêp mewn sosban fawr ar wres isel i ganolig tan eu bod wedi meddalu.

  2. Ychwanegwch y dail cyri, y tsili gwyrdd, yr hadau mwstard a’r hadau ffenigrig a’i goginio am 5 munud.

  3. Ychwanegwch y sbeisys (ac eithrio’r saffrwm) a’i goginio am ychydig funudau.

  4. Ychwanegwch y garlleg a’r past sinsir a’i goginio am 2 funud arall.

  5. Ychwanegwch y passata a’r llaeth cnau coco a’u cymysgu’n dda.

  6. Ychwanegwch y ffiled pysgod wedi’u rhewi ac ychwanegu ychydig o ddŵr os oes angen i’w orchuddio a’i fudferwi ac yna lleihau’r gwres, tynnu’r caead a’i goginio tan fod y saws wedi lleihau i gysondeb trwchus. (Gall rhywfaint o flawd corn sy’n cael ei hidlo’n raddol i mewn a’i gymysgu drwyddo helpu i dewychu’r saws gan nad ydych am golli’r cyfan yn y broses leihau).

  7. Ychwanegwch y sbigoglys a’i goginio tan ei fod wedi dadmer a chymysgu drwyddo.

  8. Cymysgwch y coriander i mewn i’r gymysgedd.

  9. Ychwanegwch flas gyda halen.

  10. Rhannwch y ffiledi pysgod gyda llwy yn dalpiau.

  11. Trosglwyddwch i ddysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn a’u adael i oeri.

  12. Ar gyfer y tatws, berwch mewn dŵr hallt am 20 munud, yna eu draenio a’u stwnsio tan eu bod yn llyfn gyda llawer o fenyn a ¼ llwy de ychwanegol o dyrmerig a phinsiad bach o saffrwm. Helo stwnsh melyn!

  13. Rhowch y stwnsh melyn llachar ar ben y pysgodyn masala a’u tolcio gyda llwy i greu siâp ‘cen pysgod’.

  14. Coginiwch mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar 180°C ffan am 30 munud ac yna newid y gosodiad i gril uchel i frownio’r top ar gyfer yr edrychiad ffwrn glai hwnnw.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.