Roedd Michael a Savanah yn enillwyr ein cystadleuaeth ysgolion ar thema Calan Gaeaf, 'Peidiwch â Bod ag Ofn Eich Sbarion' mewn partneriaeth â Scottish Business in the Community a Good Family Food.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCynheswch yr olew mewn padell fawr a ffrio’r winwnsyn dros wres isel am bum munud tan ei fod wedi meddalu, yna ychwanegu’r garlleg a’i goginio am 2 funud.
Ychwanegwch yr hagis wedi’i friwsioni a’i droi i gyfuno.
Ychwanegwch y stoc, y past tomato, y saws Swydd Gaerwrangon a’r blawd i mewn a’i fudferwi a’i goginio am 15 munud.
Blaswch y llenwad ac ychwanegu halen, pupur ac ychydig o nytmeg wedi’i gratio i ychwanegu blas. Oerwch y llenwad cyn ei ddefnyddio.
Berwch y tatws a’r swejen mewn dwy sosban ar wahân tan eu bod yn feddal. Bydd angen i’r swejen ferwi am ychydig yn hirach na’r tatws.
Stwnsiwch y tatws gyda 25g o fenyn a digon o laeth cyflawn i greu stwnsh llyfn. Cadwch 50g o’r stwnsh yn ôl i gymysgu gyda’r swejen ac yna ychwanegu blas gyda halen a phupur.
Stwnsiwch y swejen gyda 25g o fenyn ac ychydig o laeth cyflawn i greu stwnsh llyfn. Trowch rywfaint o’r stwnsh tatws i mewn a’u cymysgu gyda’i gilydd ac yna ychwanegu blas gyda halen a phupur.
Llenwch y pei gyda’r hagis oer, gan eu llenwi tri chwarter y ffordd i fyny.
Trosglwyddwch y stwnsh tatws i fag peipio wedi’i ffitio â blaen seren mawr ac yna gwneud yr un peth gyda’r stwnsh swejen.
Ychwanegwch y tatws stwnsh dros y pei gyda’r bag peipio ac yna’r stwnsh swejen bob yn ail ac yna rhoi’r pei ar glawr pobi trwm.
Gostyngwch dymheredd y popty i 180 ° C a brwsio’r pei gydag ychydig o fenyn wedi toddi a gwasgaru’r persli arno.
Coginiwch am 30 munud, tan fod y pei yn boeth a’r stwnsh wedi’i liwio’n ysgafn.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.