Skip page header and navigation

Pasteiod gyda chinio dydd Sul dros ben

Pasteiod gyda chinio dydd Sul dros ben

Dyma bryd o fwyd ar gyfer bod yn greadigol gyda'ch bwyd dros ben. Gallwch eu cael yn boeth neu eu coginio'r noson cynt i’w gael i ginio’n oer yn eich gwaith. I gael y canlyniadau gorau, cadwch eich llysiau dros ben yn yr oergell gyda'ch cig rhost nes bydd eu hangen arnoch.

Mae'r rysáit yn gwbl hyblyg a gellir ei addasu i gynnwys pa bynnag gynhwysion sydd gennych ar ôl o'ch cinio rhost. Bydd yn wych cael pasteiod gwahanol gyda llysiau tymhorol trwy gydol y flwyddyn.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 1
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Platiaid o basteiod

Cynhwysion

½ pecyn o does brau wedi’i rolio’n barod
100g o gyw iâr, cig oen neu borc, wedi'i goginio a'i dorri'n giwbiau 1/2 modfedd
Mae'r rysáit yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a chofiwch ddadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.
½ moronen wedi'i choginio
1 taten rost wedi'i choginio
50g o swejen wedi'i goginio
10g o bys wedi'u coginio
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Gellir defnyddio brocoli, asbaragws, pys a phob math o ffa yn lle’r uchod hefyd.
3 llwy fwrdd o refi dros ben
1 wy

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Cynheswch eich ffwrn i 180°C.

  3. Defnyddiwch ddysgl gymysgu fawr, gafael yn y foronen wedi’i choginio a’i mathru rhwng eich bysedd i’r bowlen, ac yna mae angen gwneud yr un peth gyda’r swejen a’r daten a chymysgu’r cig, y pys a’r grefi i mewn a’u cymysgu tan ei fod wedi’i gymysgu’n gyfartal.

  4. Cymerwch y does wedi’i rolio’n barod a thorri cylch tua 25cm ar draws (fel arall gallwch ddefnyddio plât cinio maint canolig i dorri o gwmpas). Paciwch y llenwad yn gadarn ar hyd y llinell ganol gan adael ymyl 2.5cm ar yr ymylon.

  5. Brwsiwch o amgylch ymyl y does gyda’r wy wedi’i guro ac yna codi dwy  ochr y does yn ofalus fel eu bod yn cwrdd ar y top, yna eu pinsio gyda’i gilydd i’w selio, gan sicrhau nad oes unrhyw fylchau.

  6. Codwch y bastai’n ofalus ar glawr pobi wedi’i leinio â saim ac yna brwsio’r bastai gyda’r wy cyn ei bobi am 45 munud tan ei fod yn euraidd.

  7. Gweinwch a’i fwynhau.

  8. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur. Yn syml, dylid ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.