Skip page header and navigation

Paëla Sbaenaidd hawdd

Paëla Sbaenaidd hawdd

Mae paëla yn gyfrwng gwych ar gyfer defnyddio unrhyw gig wedi'i goginio neu selsig dros ben sydd gennych yn eich oergell. Mae'r sbeis saffrwm yn rhoi blas bendigedig go iawn a lliw 'melyn aeddfed' i'r pryd o fwyd hwn.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Powlen liwgar o baëla reis melyn gyda phys gwyrdd ac amrywiaeth o ddarnau eraill o lysiau

Cynhwysion

1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae nionod dodwy a shibwns yn gweithio'n dda yma.
1 ewin garlleg, wedi'i blicio a'i fathru
1 pupur coch, wedi’i dorri'n fân a thynnu’r hadau
1 pupur melyn, wedi'i dorri'n fân a thynnu’r hadau
1 llwy fwrdd o olew olewydd
200g o reis grawn hir neu risoto
250ml o win gwyn
500ml o stoc cyw iâr
Pecyn 350g o fwyd môr cymysg, wedi'i rewi
Cig wedi'i goginio dros ben fel cyw iâr neu borc
Tua 2 selsig sbeislyd wedi'u coginio fel merguez neu tsioriso, wedi'u sleisio
125g o bys wedi'u rhewi
Halen a phupur du
Pinsiad o saffrwm (dewisol)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ffrio fawr, ychwanegu’r winwnsyn a’i goginio’n ysgafn am 5 munud. Yn y cyfamser socian y saffrwm mewn 2 lwy fwrdd o ddŵr poeth, os ydych chi’n ei ddefnyddio.

  2. Ychwanegwch y pupur a’r garlleg a’i goginio am 3-4 munud.

  3. Ychwanegwch y reis, y gwin, y stoc boeth, y cymysgedd saffrwm a’r halen a phupur tan ei fod yn berwi ac yna ei fudferwi, gan ei droi’n achlysurol nes bod bron y cyfan o’r hylif wedi diflannu.

  4. Ychwanegwch y bwyd môr, y cig dros ben a’r selsig sbeislyd yna ei orchuddio a throi’r gwres i lawr a’i fudferwi am 5 munud, gan dynnu’r caead i ffwrdd bob ychydig funudau i’w droi.

  5. Ychwanegwch y pys a’i goginio am ychydig funudau pellach tan fod yr hylif wedi anweddu cyn ychwanegu blas a’i weini ar unwaith.

  6. Awgrym: Gan fod reis yn gymharol rad, mae’n hawdd dod i arfer â thaflu gormod i’r sosban. Mae eich mwg te safonol yn adnodd defnyddiol ar gyfer mesur reis heb ei goginio. Bydd un cwpan llawn o reis yn bwydo 4 oedolyn a ¼ cwpan yn bwydo 1 oedolyn.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos. Oerwch yn gyflym, o fewn 1 awr.
Amser
24 awr
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.