Skip page header and navigation

Omled Sbaenaidd gyda phwdin du

Omled Sbaenaidd gyda phwdin du

Swper cyflym a blasus, byddwch yn greadigol a defnyddiwch unrhyw damaid blasus sydd gennych dros ben yn eich oergell!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20 munud
a vibrant yellow omelette topped with a green garnish

Cynhwysion

Pwdin du dros ben
2 taten wedi'u berwi, a’u sleisio
Nid oes angen eu plicio, dim ond eu golchi’n dda!
½ selsigen chorizo, heb y croen ac wedi’u sleisio’n ddarnau fel ceiniog
½ pupur coch, wedi'i sleisio
Llond llaw o sbigoglys
½ winwnsyn, wedi'i sleisio
Gall winwns sydd dros ben gael eu deisio a'u rhewi mewn cynhwysydd aerglos.
6 wy
30g caws Parma, wedi'i gratio
Sblash o laeth
Halen a phupur i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch badell dros wres canolig ac ychwanegu’r chorizo a’i adael i ffrio am funud neu ddwy, tan fod yr olew yn dechrau rhyddhau.

  2. Ychwanegwch y winwnsyn a’r pupur a’u coginio tan eu bod yn dechrau meddalu.

  3. Ychwanegwch y pwdin du, y tatws a’r sbigoglys a’u ffrio am ychydig funudau eto.

  4. Yn y cyfamser, curwch yr wyau, y llaeth, yr halen a’r pupur gyda’i gilydd mewn dysgl fawr.

  5. Ychwanegwch yr wyau i’r sosban, gan sicrhau eich bod chi’n cael haen gyfartal a’i adael i goginio ar wres isel/canolig am tua 5 munud, neu tan fod yr wy ar y top yn dechrau coginio.

  6. Tra bod ychydig o siglad ar ôl yn yr wy, gwasgarwch y caws dros ben y cymysgedd a throsglwyddo’r sosban i gril poeth tan ei fod wedi setio (gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael yr handlen yn sticio allan fel nad yw’n toddi neu’n llosgi’ch llaw!)

  7. Tynnwch yr omled wedi’i goginio o’r badell i blât mawr, ei sleisio a’u weini gyda salad.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.