Pryd blasus a hawdd i'r teulu – pryd o fwyd gwych ar gyfer defnyddio cyw iâr heb ei goginio dros ben o'ch barbeciw.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu yn y microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Cynheswch y ffwrn i 180°C.
Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban fawr â gwaelod trwm.
Ffriwch y winwnsyn tan ei fod yn feddal.
Ychwanegwch y garlleg a’r briwgig cig eidion a’u coginio am rai munudau tan ei fod wedi brownio.
Ychwanegwch y tomatos, y perlysiau a’r piwrî tomato a’u coginio am 20 munud.
Yn y cyfamser, tynnwch ganol pob cylch maro allan ac yna rhoi pob cylch maro mewn dysgl pobi fawr.
Rhowch gyfran o’r saws briwgig i ganol pob cylch maro ac yna arllwys gweddill y saws dros y top.
Gorchuddiwch â ffoil a’u pobi yn y ffwrn am tua 30 munud.
Tynnwch y ffoil, a gwasgaru ychydig o gaws ar ben y maro a’u rhoi yn ôl yn y ffwrn heb eu gorchuddio am 10 munud.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.