Skip page header and navigation
Potatoes in a pile

46%

OF THE POTATOES
WE BUY ARE WASTED

Buy Loose to Waste Less.

Lletemau trwchus blodfresych rhost gyda dresin tahini

Lletemau trwchus blodfresych rhost gyda dresin tahini

Allai’r rysáit yma ddim bod yn haws, rysáit blodfresych blasus a grëwyd gan gogydd Tesco, Martyn Lee yn Sioe Frenhinol Cymru 2017. Ffordd wych o ddefnyddio’r llysieuyn cyfan – y coesyn, y dail a’r cyfan! Torrwch yn ddarnau a'i weini. Gwych fel pryd ochr gyda chigoedd rhost.
Gan Tesco Real Food
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Blodfresych wedi’i rostio gyda dresin tahini oren a garnais o leimiau

Cynhwysion

1 blodfresych mawr, wedi'i dorri'n ddarnau
40g o fenyn
20g o olew hadau rêp
10g o ras el hanout i ychwanegu blas
80g o tahini
25g o sudd lemwn
5g o arlleg
100g o iogwrt naturiol
Llond llaw o goriander, wedi'i dorri'n fân
3 llwy fwrdd o hadau pomgranad

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i nwy 7, 230 ° C (ffan 210 ° C), 450 ° F.

  2. Cymysgwch y blodfresych gyda’r menyn, yr olew a’r blas mewn dysgl fawr. Peidiwch â phoeni os yw’n torri ychydig.

  3. Rhostiwch ar glawr pobi am 15-18 munud tan ei fod yn euraidd ac ychydig yn golosgedig.

  4. Yn y cyfamser, cymysgwch y tahini, y lemwn, y garlleg, yr halen a’r iogwrt i wneud y dresin. Gallwch ei lacio gydag ychydig o ddŵr os oes angen.

  5. Trefnwch y blodfresych ar blât ac ychwanegu’r dresin dros y blodfresych ac yna gwasgaru’r hadau coriander a phomgranad ar ben y dresin.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.