Skip page header and navigation

Hwmws betys

Hwmws betys

Dyma rysáit newydd ar gyfer hwmws clasurol, gan ddefnyddio betys i roi ffresni, ysgafnder a bywiogrwydd. Dip hynod o liwgar sy'n berffaith ar gyfer y barbeciws haf hynny, a roddir i chi gan Expert Home Tips.
Gan Expert Home Tips
Yn gweini 1
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Dysgl liwgar, lachar o hwmws betys pinc

Cynhwysion

Pecyn 300g o fetys, gan gynnwys y sudd
400g o ffacbys tun, wedi'u draenio a'u rinsio
1 ewin garlleg bach
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1½ llwy de o sudd lemwn
Halen a phupur i flasu

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Ychwanegwch y betys a’r ffacbys i gymysgydd a’u cymysgu tan eu bod yn llyfn.

  2. Torrwch yr ewin garlleg yn dri rhan, ac ychwanegu un darn i’r cymysgydd gyda’r sudd lemwn a phinsiad hael o halen a phupur a’u cymysgu i gyfuno.

  3. Blaswch yr hwmws a phenderfynu a ydych am ddewis ychwanegu traean arall o arlleg, mwy o sudd lemwn a halen a phupur.

  4. Arllwyswch i ddysgl a’i weini gyda moron wedi’i blicio a thafelli o giwcymbr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.