Skip page header and navigation

Arancini

Arancini

Yn yr achos hwn, mae wedi'i wneud â risoto madarch gwyllt sydd dros ben a thafelli hen o fara gwyn. Mae’n grensiog ar y tu allan gyda rhosmari a rhannau trioglyd o fadarch a chaws ar y tu mewn. Perffaith! Mae maint ac amser coginio yn dibynnu ar faint o risoto sydd gennych ar ôl a faint o arancini rydych chi'n ei wneud yn y pen draw.
Gan Imran Nathoo
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
peli arancini crimp gyda garnais perlysiau

Cynhwysion

Rhan/nau o risoto dros ben
2 dafell ar ddiwedd torth wen (mae hen fara’n gweithio'n well)
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda. Dylid ei ddadmer ar dymheredd ystafell neu ei dostio’n syth o'r rhewgell.
2 sbrigyn o rosmari
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes - mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal.
1 wy
Hanner cwpan o flawd plaen
Halen môr mân a phupur newydd ei falu
1 litr o olew hadau rêp

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Yn syml, dylid blendio’r tafelli ar ddiwedd torth wen gyda dail dau sbrigyn rhosmari yn friwsion mân. Mae’n gwneud llwyth. (Gellir cadw coesynnau’r rhosmari i ychwanegu blas at gawl neu sawsiau).

  2. Rhowch y briwsion bara â pherlysiau mewn dysgl fawr. Yn wir, nid oes angen llawer, felly cadwch rai mewn cynhwysydd aerglos am ddiwrnod arall neu i wneud pangritata.

  3. Cymerwch ychydig o’r risoto oer a’i ffurfio’n rhannau bach maint pêl, tan fod yr holl risoto wedi cael ei ddefnyddio.

  4. Rhowch y blawd mewn dysgl ar wahân ac ychwanegu blas gyda halen a phupur a’i gymysgu drwodd.

  5. Torrwch yr wy a’i roi mewn dysgl arall a’i guro.

  6. Cymerwch bob pêl o risoto yn ei dro a’i dipio i mewn i’r blawd wedi’i sesno gan ysgwyd y blawd sydd dros ben i ffwrdd.

  7. Yna, dipiwch y bêl o risoto â blawd hon i mewn i’r wyau i’w gorchuddio.

  8. Yn olaf, rhowch y bêl o risoto yn y bowlen gyda’r briwsion bara â pherlysiau a’i orchuddio’n dda.

  9. Rhowch yr olew mewn padell ddofn, a’i gynhesu i 180°C (neu ddefnyddio ffrïwr saim dwfn) a ffrio bob pêl o risoto wedi’i gorchuddio yn y briwsion bara â pherlysiau nes eu bod yn euraidd.

  10. Tynnwch o’r olew poeth yn ofalus ar bapur cegin ar hambwrdd i ddraenio olew sy’n weddill.

  11. Ailadroddwch y camau hyn ar gyfer gweddill y peli o risoto a’i bwyta tra byddan nhw’n hyfryd ac yn gynnes.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos. Oerwch yn gyflym, o fewn 1 awr.
Amser
Oergell am 24 awr
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.