Skip page header and navigation

Lasagne hadog coch

Lasagne hadog coch

Dyma dro ar rysáit lasagne gan ddefnyddio pysgodyn wedi’i gochi a saws india-corn hufennog. Pryd o fwyd blasus i ddau sy'n berffaith ar gyfer noson i mewn.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 45 munud
a cheesy lasagne dish made with a whole haddock fillet

Cynhwysion

280g o ffiledi hadog wedi’u cochi heb asgwrn
Gallwch hefyd ddefnyddio penfras wedi’i gochi yn y rysáit hon neu ychwanegu ychydig o gorgimwch ac efallai rhai cennin wedi'u ffrio. I gael fersiwn llysieuol, rhowch ychydig o gennin wedi’u ffrio, caws wedi'i gratio a thalp o fwstard Dijon yn lle'r pysgod.
325ml o laeth hanner sgim
1 ddeilen llawryf sych
Pupur du i ychwanegu blas
20g o fenyn
20g o flawd plaen
Tun 200g o india-corn hufennog
Defnyddiwch unrhyw india-corn hufennog sydd dros ben i wneud cawl cyflym yn yr arddull Tsieineaidd: ychwanegwch y stoc cyw iâr, cyw iâr wedi’i ddeisio a’i goginio, saws soi a'i dewychu â blawd corn.
2 lwy fwrdd o iogwrt naturiol
1 wy canolig
6 taflen lasagne sydd ddim angen eu coginio

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch y pysgod mewn padell ffrio ac arllwys y llaeth drostynt ac ychwanegu’r ddeilen llawryf, ac ychwanegu blas gyda phupur du a berwi’r llaeth yn ysgafn, cyn troi’r gwres i lawr, a photsiwch y pysgod am 5 munud. Tynnwch y pysgodyn o’r sosban gyda llwy a’u rhoi ar blât a’i fflochio’n ddarnau bach gyda fforc a’i roi i un ochr. Hidlwch y llaeth i jwg, gan daflu’r ddeilen llawryf.

  2. I wneud i’r saws toddwch y menyn mewn sosban yna ychwanegu’ blawd a’i goginio am 2 funud, gan ei droi gyda llwy bren ac arllwys y llaeth yn raddol, ychydig ar y tro a’i droi’n barhaus i osgoi lympiau. Mudferwch y saws yn ysgafn, gan ei droi’n gyson am tua 2 funud tan ei fod wedi tewychu. Ychwanegwch y fflochiau pysgod i’r saws a’i gymysgu’n ysgafn fel nad yw’r pysgodyn yn torri’n ddarnau.

  3. Cynheswch y ffwrn i 180°C/160°C Ffan/nwy 4. A rhoi’r india-corn hufennog, iogwrt naturiol a’r wy mewn dysgl a’u curo’n ysgafn gyda fforc tan ei fod wedi’i gyfuno ac ychwanegu blas gyda phupur du.

  4. I gydosod gwasgarwch hanner y saws pysgod dros waelod dysgl pobi tua 20cm x 16cm a’i orchuddio gydag un haen o daflenni lasagne, gan eu torri i ffitio, yna rhowch hanner y cymysgedd india-corn a haen arall o lasagne ar ei ben. Ailadroddwch yr haenau, saws pysgod, taflenni lasagne, yna gorffen gyda haen o gymysgedd india-corn ar ei ben.

  5. Rhowch y lasagne yn y ffwrn am 35 munud tan fod y topin yn euraidd.

  6. Mae’n addas i’w rewi ar ôl ei goginio. Cofiwch ei ddadmer yn yr oergell a’i ailgynhesu tan ei fod yn chwilboeth drwyddo. Gellir storio unrhyw fwyd dros ben dan orchudd yn yr oergell am hyd at 48 awr a’i ailgynhesu’n drylwyr tan ei fod yn chwilboeth.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.