Skip page header and navigation

Grefi cartref ar gyfer twrci rhost

Grefi cartref ar gyfer twrci rhost

Mae gennym ni'r rysáit perffaith ar gyfer grefi cartref i gyd-fynd â'ch twrci rhost.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 10-15 munud
Grefi trwchus, llyfn mewn cwch grefi gwyn yn barod i’w weini

Cynhwysion

1 peint o ddŵr, a faint bynnag sydd ei angen arnoch yn ychwanegol i gael y trwch o’ch dewis
Seleri, moronen a winwnsyn, wedi'u torri'n fras
Defnyddiwch lysiau dros ben
Croen llysiau o'r gwaith paratoi ar gyfer y swper
1 ciwb o stoc cyw iâr neu lysiau
1 llwy fwrdd o flawd plaen

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Yn gyntaf, rhostiwch eich twrci ar drybedd o lysiau wedi’u torri’n fras - seleri, moron a winwns - a fydd yn rhoi sylfaen flasus i chi ar gyfer eich grefi. Gallwch hefyd ychwanegu rhai perlysiau tuag at ddiwedd yr amser rhostio os dymunwch. Mae rhosmari, teim a saets i gyd yn gweithio’n dda.

  2. Tra’ch bod chi’n paratoi’r llysiau ar gyfer eich cinio Nadolig, cadwch y croen. Ie, wir! Ychwanegwch tua pheint o ddŵr i sosban a’i ferwi ac yna ychwanegu croen y moron, pannas a winwns ar hyd y ffordd a chrwyn llysiau a pherlysiau, beth bynnag sydd gennych chi – mae’r cyfan yn ychwanegu blas!

  3. Pan fydd eich twrci wedi coginio, gadewch iddo orffwys a gorffen y grefi.

  4. Ychwanegwch y ciwb stoc at eich padell o ddŵr, a rhoi eich padell twrci ar yr hob. Gan ddefnyddio stwnsiwr tatws, dechreuwch dorri’r llysiau sydd ar ôl yn y badell. Dylai fod yn dywyll iawn ac wedi’i garameleiddio - peidiwch â phoeni os yw’n edrych fel ei fod wedi llosgi!

  5. Ychwanegwch y blawd i’r badell, yna arllwyso eich stoc hylif tra rydych yn dal ati i stwnsio nes ei fod i gyd wedi’i gymysgu’n dda a’i dewychu.

  6. Rhowch y grefi yn ôl yn y sosban trwy ridyll i ddal yr holl ddarnau o lysiau, yna ychwanegu blas a’i gadw’n gynnes tan fod angen ei ddefnyddio. Ychwanegwch unrhyw sudd sy’n casglu o’r twrci i gael hyd yn oed mwy o flas!

  7. Cofiwch rewi unrhyw grefi nad ydych yn ei ddefnyddio’r tro hwn i’w arbed rhag mynd yn wastraff. Gallwch ei ddefnyddio fel sylfaen flasus ar gyfer ryseitiau eraill fel cawl, stiwiau a risoto. Y cwbl fydd angen i chi wneud fydd ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu yn y microdon ar ‘ddadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Mewn sosban ar yr hob neu'r microdon nes ei fod yn chwilboeth.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.