Skip page header and navigation

Draenog y môr wedi'i ffrio mewn padell, tatws hufennog, shibwns a tsili

Draenog y môr wedi'i ffrio mewn padell, tatws hufennog, shibwns a tsili

Rysáit flasus, cyflym a hawdd ar gyfer draenog y môr sy'n dda ar gyfer defnyddio hufen sengl a lemwn dros ben.
Gan Brian Maule
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Dau ddarn o ddraenog y môr yn coginio mewn padell ffrio gyda pherlysiau

Cynhwysion

4 ffiled draenog y môr
4 taten o faint canolig – defnyddiwch amrywiaeth sy'n addas ar gyfer stwnsio
Does dim angen eu plicio dim ond eu golchi’n dda!
4 shibwns, wedi'u sleisio'n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae winwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
1 tsili coch, wedi'i dorri'n fân a'r hadau wedi'u tynnu
50g o fenyn heb halen
Diferyn o hufen sengl
1 llwy fwrdd o olew olewydd
Halen
Pupur du newydd ei falu
Sudd lemwn
Blawd plaen i’w ychwanegu’n ysgafn ar y pryd

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Pliciwch y tatws a’u torri yn eu hanner, yna eu berwi mewn dŵr hallt tan eu bod yn feddal ( tua 25 munud). Draeniwch y tatws a’u stwnsio, gan ychwanegu tua hanner y menyn a diferyn o hufen, ychydig ar y tro ac yna ychwanegu blas gyda halen a phupur tra rydych yn dal ati i stwnsio’r tatws tan eu bod yn ysgafn ac yn ffluwchog.

  2. Tra bod y tatws yn coginio, rhowch flawd ar ochr y draenog y môr sydd â chroen yn ysgafn ac ychwanegu blas gyda halen a phupur. Cynheswch badell ffrio ac ychwanegu darn o fenyn ac unwaith y bydd wedi toddi yn y badell a dechrau hisian, ychwanegu’r draenog y môr gydag ochr y croen am ei lawr. Coginiwch am 2-3 munud tan yn frown euraidd a throi’r draenog y môr drosodd a’i goginio am 3 munud arall cyn tynnu’r draenog y môr o’r badell a’i gadw’n gynnes.

  3. Ychwanegwch yr olew olewydd, y sudd lemwn, y shibwns a’r tsili i’r badell yr oedd eich pysgodyn ynddi a’i goginio am tua 1 munud, gan ei droi drwy’r amser. Byddwch yn ofalus i beidio â gorboethi’r badell.

  4. I weini, rhowch y tatws stwnsh hufennog ar ganol 4 plât ac yna gosod ffiled draenog y môr ar ben y tatws ac ychwanegu’r tsili a shibwns yn ysgafn o’i gwmpas.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.