Skip page header and navigation

Darnau bach cawslyd gyda saws llugaeron mewn ffwrn ffrio

Darnau bach cawslyd gyda saws llugaeron mewn ffwrn ffrio

Pwy all wrthod bwyd parti cawslyd? Mae'r rhain yn hynod o syml i'w gwneud – diolch i'r ffwrn ffrio a dip syml o saws llugaeron! Os dymunwch, gallwch baratoi'r rhain ddiwrnod ymlaen llaw, eu gorchuddio a'u cadw yn yr oergell tan eich bod yn barod i fynd! Dim briwsion bara? Ceisiwch ei orchuddio â'ch hoff greision (gyda blas), wedi'u malu'n fân.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 25 munud
Darnau caws gyda Saws Llugaeron o'r Ffriwr Aer

Cynhwysion

12 Caws ysgafn Babybel (heb y gorchudd cwyr)
75g – 100g o friwsion bara panko
2 wy, wedi'u curo
3 llwy fwrdd o flawd
1 llwy de o bowdr winwns neu garlleg
Pinsiad o halen
Pinsiad o berlysiau sych

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch eich ffwrn ffrio i 200c.

  2. Gosodwch dri phowlen. Ychwanegwch y blawd i’r cyntaf. Yr wy wedi ei guro, i’r ail. A’r briwsion bara, halen, perlysiau sych a phowdr winwns/garlleg i’r un olaf, gan roi tro cyflym iddo gyfuno’r blas i gyd.

  3. Mewn camau, rhowch bob Babybel yn gyntaf yn y blawd, yna yn y cymysgedd wyau, yna yn y briwsion bara a’i roi i un ochr ac ailadrodd y camau gyda’r caws sy’n weddill.

  4. Rhowch y caws wedi’i orchuddio yn ofalus ym masged y ffwrn ffrio (ceisiwch beidio â gadael iddynt gyffwrdd) a’u coginio am 5 munud.

  5. Gweinwch y darnau bach cawslyd gyda saws llugaeron fel dip.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.