Os oes gennych chi ffwrn ffrio (air fryer), mae'n rhaid i chi roi cynnig ar y darnau bach caws hyn! Gydag ychydig o gynhwysion yn unig, maen nhw'n gwneud bwyd parti perffaith ac yn anorchfygol wedi'u rhoi mewn saws llugaeron.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRhowch y gwrd yn y ficrodon mewn dysgl y gellir ei rhoi mewn microdon a’i goginio yn y ficrodon am tua 5 munud (neu tan ei fod yn feddal ac yn frau).
Ychwanegwch eich gwrd, y pupur du, paprica, powdr garlleg a 100g o’r cawsiau Cheddar mwg a’r cawsiau Cheddar aeddfed ychwanegol wedi’u gratio at y crochan araf, a’u coginio am 45 munud, neu tan fod y caws wedi toddi.
Ychwanegwch y caws hufen, y sudd lemwn a’r shibwns a’u cymysgu â chymysgydd tan eu bod yn llyfn.
Rhowch y caws sy’n weddill ar ben y gymysgedd ac yna rhoi’r arno a’i goginio tan fod y caws wedi toddi. Os nad ydych yn ei weini ar unwaith, ei ychwanegu i ddysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn a’i roi yn yr oergell unwaith y bydd wedi oeri. Pan fyddwch yn barod i’w weini, coginiwch ar 180 am tua 20 munud cyn rhoi gweddill y caws ar ei ben a’i grilio tan ei fod yn byrlymu!
Gweinwch gyda’ch hoff crudités a dipiau.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.