Skip page header and navigation

Sglodion pannas gyda phaprica mwg a dip mayonnaise barbeciw mewn ffwrn ffrio

Sglodion pannas gyda phaprica mwg a dip mayonnaise barbeciw mewn ffwrn ffrio

Mae pannas rhost yn ffefryn tymhorol ar y diwrnod mawr, ond oeddech chi'n gwybod eu bod nhw hefyd yn gwneud byrbryd gwych wrth eu coginio yn y ffwrn ffrio? Rydym ni wedi mynd am flas mwg yma ond mae arbrofi gyda blas yn hawdd - beth am drio'r sglodion gyda Garam Masala, neu arlleg a pherlysiau? Dim ffwrn ffrio? Dim problem - cynheswch eich ffwrn ymlaen llaw i 200c (180c) a thaenwch y pannas ar glawr pobi a rhoi’r pannas mewn ychydig o olew olewydd a’u coginio yn y ffwrn am 12 - 15 munud, neu tan eu bod yn grimp neis!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 15 munud
Sglodion Pannas gyda Paprika o'r Ffriwr Aer, Saws Barbeciw

Cynhwysion

1kg o bannas, wedi'u plicio a'u torri'n sglodion
3 llwy de o baprica mwg
1 llwy de o bowdr garlleg
1 llwy fwrdd o olew olewydd
Pinsiad da o halen a phupur du
6 llwy fwrdd o mayonnaise ysgafn (neu mayonnaise figan)
2 lwy fwrdd o saws barbeciw

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn ffrio ymlaen llaw i 200c.

  2. Mewn dysgl gymysgu fawr, trowch eich pannas gyda’r olew olewydd, y powdr garlleg, y paprica mwg, yr halen a phupur a’u cymysgu’n dda i gyfuno.

  3. Ar ôl eu gorchuddio, ychwanegwch y pannas i fasged y ffwrn ffrio a’u ffrio am 10 - 12 munud (yn dibynnu ar drwch), gan eu troi hanner ffordd drwodd.

  4. Cymysgwch y mayonnaise a’r saws barbeciw gyda’i gilydd i wneud y dip a gweinwch ar unwaith gyda’r sglodion pannas poeth crimp.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.