Skip page header and navigation

Byrgyrs twrci byfflo

Byrgyrs twrci byfflo

Mae bwyd dros ben y Nadolig newydd gael gweddnewidiad blasus. Rhowch dwrci dros ben mewn cymysgedd o fenyn a saws poeth a'i bentyrru i mewn i roliau bara (rydym wrth ein bodd yn rhewi byns byrgyr i'w cael wrth law ar gyfer pethau fel hyn). Mae’r saws poeth yn paru’n berffaith gyda mayonnaise wedi’i wneud â chaws glas dros ben o’r bwrdd caws Nadolig hefyd!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 15 munud
Burgers Twrci Buffalo

Cynhwysion

Cig twrci rhost dros ben, wedi'i dorri'n fân ( tua 125g y pen)
4 rhôl feddal
Letys wedi'i rwygo
Eich hoff saws poeth
2 lwy fwrdd o fenyn neu farjarîn
Mayonnaise
Caws glas dros ben

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Toddwch y menyn mewn padell ffrio fawr ar wres canolig.

  2. Ychwanegwch y cig twrci wedi’i dorri’n fân ac ychydig o’r saws poeth.

  3. Cymysgwch yn dda i orchuddio’r cig a’i gynhesu tan fod y twrci wedi cynhesu drwyddo.

  4. Ychwanegwch ychydig o gaws glas wedi’i friwsioni a llwyaid o mayonnaise a’i gymysgu.

  5. Llenwch y rholiau gyda letys, y cig twrci ac yna rhoi’r mayonnaise ar ei ben (a mwy o gaws glas os dymunir).

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Mae'r Nadolig a bwyd cysur yn mynd law yn llaw, a beth sy'n fwy cysurus na chaws macaroni? Mae'r ryseitiau hyn yn defnyddio cig moch dros ben a sbrowts ar gyfer tro sawrus iawn ar glasur. Credwch ni, fe fyddwch wrth eich bodd gydag ef.

Macaroni Ysgewyll a Bacwn

Os oes gennych chi ffwrn ffrio (air fryer), mae'n rhaid i chi roi cynnig ar y darnau bach caws hyn! Gydag ychydig o gynhwysion yn unig, maen nhw'n gwneud bwyd parti perffaith ac yn anorchfygol wedi'u rhoi mewn saws llugaeron.

Darnau caws gyda Saws Llugaeron o'r Ffriwr Aer

Mae'r sglodion pannas ffrio mewn ffwrn ffrio yn felys-moes-mwy! Pasiwch blât o'r rhain o amgylch a byddwch yn sicr o ennill y teitl gwesteiwr gorau.

Sglodion Pannas gyda Paprika o'r Ffriwr Aer, Saws Barbeciw
Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.