Skip page header and navigation

Cyrri cnau coco twrci a ffacbys

Cyrri cnau coco twrci a ffacbys

Mae'r cyri twrci sbeislyd hwn yn defnyddio twrci a llysiau dros ben. Gellir ychwanegu unrhyw lysiau gwyrdd fel brocoli, ffa Ffrengig a phys ar y diwedd gyda'r twrci.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Powlen o gyri twrci gyda reis ar fwrdd wrth ymyl powlen weini fawr

Cynhwysion

1.35kg o wreiddlysiau cymysg fel tatws neu foron, wedi'u torri'n ddarnau bach
2 winwnsyn, wedi'u plicio a'u torri'n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae nionod dodwy a shibwns yn gweithio'n dda yma.
2 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u torri'n fân
3 llwy fwrdd o olew blodau’r haul
1½ llwy fwrdd o garam masala
½ llwy fwrdd o fflochiau tsili sych neu bowdr tsili
200ml o stoc twrci neu gyw iâr
Tun 400g o domatos wedi'u torri'n fân
Ychwanegwch unrhyw domatos ffres sydd angen eu defnyddio.
Tun 200g o ffacbys, wedi'i ddraenio
75g o fricyll sych, wedi'u haneru
2 tun x 400ml o laeth cnau coco
500g o gig twrci wedi'i goginio
4 llwy fwrdd o iogwrt
2 lond llaw o ddail coriander ffres

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch sosban fawr ac ychwanegu’r olew a’r winwns a’u coginio, gan eu troi tan eu bod wedi brownio tua 10 munud. Ychwanegwch y llysiau eraill a’u coginio ar y gwres tan eu bod yn lliw ysgafn, tua 5 munud.

  2. Ychwanegwch y garlleg, y garam masala, a’r powdr tsili a’u coginio am 1 munud arall.

  3. Arllwyswch y stoc, y llaeth cnau coco, y tomatos wedi’u torri, y ffacbys a’r bricyll i mewn tan eu bod yn berwi, yna troi’r gwres i lawr, eu gorchuddio a’u mudferwi tan fod y llysiau bron wedi coginio, tua 40 munud.

  4. Ychwanegwch y cig twrci wedi’i goginio a’i goginio am 5 munud arall neu tan fod y twrci yn chwilboeth.

  5. Trowch y gwres i ffwrdd, ac ychydig cyn ei weini ychwanegwch yr iogwrt a’r coriander a’i weini gyda reis basmati plaen wedi’i ferwi, siytni mango neu popadom.

  6. I rewi ymlaen llaw: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 3 yna ei oeri a’i roi mewn cynhwysydd sy’n addas ar gyfer y rhewgell, ei labelu a’i rewi am hyd at 3 mis. I’w ddefnyddio: Dylid dadmer y cymysgedd dros nos yn yr oergell yna ei roi mewn sosban fawr, ychwanegu’r twrci a’i ferwi a chwblhau cam 4.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oerwch y cymysgedd a’i roi mewn cynhwysydd sy’n addas ar gyfer y rhewgell a’i labelu cyn ei rewi.
Aildwymo
Cofiwch ei ddadmer dros nos yn yr oergell. Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.