Skip page header and navigation

Cyri Thai gwyrdd gyda pheli reis gludiog

Cyri Thai gwyrdd gyda pheli reis gludiog

Mae gwir flas y dwyrain ar y cyri Thai blasus hwn, mae’n un cyflym iawn i'w wneud a gellir ei amrywio trwy ddefnyddio past Thai coch neu felyn. Gweinwch gyda reis wedi'i goginio dros ben sydd wedi'i ailwampio'n beli reis gludiog.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Cyri Thai gwyrdd wedi’i gymysgu â darnau o gyw iâr a thomatos a phys

Cynhwysion

Marinâd

2 cyw iâr, wedi'u deisio
2 lwy fwrdd o bast cyri Thai gwyrdd
1 llwy fwrdd o olew llysiau

Saws

1 llwy fwrdd o olew llysiau
1 winwnsyn mawr, tua 200g, wedi'i ddeisio
Edrychwch yn y rhewgell am winwns sydd dros ben y gallech fod wedi'u torri a'u rhewi o'r blaen.
½ llwy de o sinsir
2 lwy de o dyrmerig
Can 400ml o laeth cnau coco ysgafn
30g o goriander ffres

I weini

100g o ffa gwyrdd, wedi'u torri yn eu hanner
1 pupur coch bach, wedi'i dorri'n stribedi a thynnu’r hadau
Edrychwch yn eich oergell am unrhyw bupur dros ben y mae angen ei ddefnyddio
150g o reis basmati wedi'i goginio neu reis jasmin

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig! Dylech ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Cymysgwch gynhwysion y marinâd gyda’i gilydd mewn dysgl nes bydd y cyw iâr wedi’i orchuddio. Gorchuddiwch y cyw iâr a’i yn yr oergell i farinadu am o leiaf 2 awr.

  3. I baratoi’r saws cynheswch 1 llwy fwrdd o olew mewn sosban ac ychwanegu’r winwnsyn a’i ffrio’n ysgafn am 5 munud tan ei fod wedi meddalu ond heb frownio. Ychwanegwch y sinsir a’r tyrmerig a’i goginio am 1 munud.

  4. Arllwyswch y llaeth cnau coco i mewn, a’i ferwi’n raddol yna troi’r gwres i lawr a’i fudferwi, wedi’i orchuddio am 15 munud. Torrwch y coriander yn fras, gan gynnwys y coesynnau, a’i ychwanegu at y saws a pharhau i fudferwi am 5 munud yna tynnu’r sosban oddi ar y gwres a blendio’r cymysgedd gyda chymysgydd llaw nes ei fod yn llyfn.

  5. Cynheswch sosban ac ychwanegu’r cyw iâr a’r marinâd, a’i dro-ffrio dros wres cymedrol am 10 munud. Ychwanegwch y ffa gwyrdd a’i goginio am 5 munud arall. Yn olaf arllwyswch y saws dros y cyw iâr ac yna ychwanegu’r pupur a’i fudferwi am 5-10 munud neu nes bydd y cyw iâr wedi coginio drwyddo.

  6. I wneud y peli reis gludiog, gan ddefnyddio dwylo gwlyb, rholiwch y reis yn 6 pêl siâp cyfartal a’i roi ar blât anfetelaidd, eu gorchuddio a’u rhoi yn y microdon tan eu bod yn chwilboeth.

  7. AWGRYM

    Ar gyfer reis melys, ychwanegwch groen a sudd leim cyn ei rolio’n beli. Mae cyw iâr wedi’i goginio yn gweithio’n dda yn y rysáit drwy ond lleihau’r amser coginio i 10 munud gan sicrhau bod y cyw iâr wedi’i gynhesu’n drylwyr cyn ei weini. Dylid oeri reis wedi’i goginio sydd dros ben yn gyflym ac yna ei storio yn yr oergell am hyd at 24 awr. Gellir ei fwyta’n oer neu ei ailgynhesu tan ei fod yn chwilboeth. Mae’r pryd hwn yn gweithio’n dda gyda llysiau eraill hefyd, gallech chi roi cynnig ar ychwanegu moron wedi’u coginio ar y diwedd neu hyd yn oed llond llaw o bys wedi’u rhewi neu courgette wedi’u sleisio. Os oes gennych chi goriander ffres dros ben, beth am ei dorri’n fân a’i rewi mewn clawr ciwbiau rhew wedi’u llenwi â dŵr. Unwaith y byddant wedi rhewi, tynnu’r rhew allan a’u storio yn y rhewgell mewn bag rhewgell neu dwb plastig. Y tro nesaf y bydd rysáit yn galw am goriander ffres bydd gennych beth yn barod ar flaenau eich bysedd.

  8. Opsiynau Llysieuol

    Newidiwch y cyw iâr am doffw caled a defnyddiwch bast Thai llysieuol.

  9. Awgrymiadau ar gyfer Rhewi a Storio

    Gellir rhewi’r saws sbâr a’i ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio i greu cyri Thai o’ch dewis. Storiwch unrhyw gyri cyw iâr wedi’i goginio sydd dros ben wedi’i orchuddio yn yr oergell a’i fwyta cyn pen 48 awr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.