Skip page header and navigation

Cyri llysiau

Cyri llysiau

Gellir ychwanegu bron iawn unrhyw lysiau dros ben at y cyri hwn, ac mae hefyd yn wych i’w ail gynhesu ar gyfer cinio drannoeth.
Gan James Welsh
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Bowl of vegetable curry which includes chickpeas and naan bread on the side

Cynhwysion

1kg o lysiau cymysg
3 winwnsyn, wedi'u plicio a'u torri'n fras
1 ewin garlleg, wedi'i blicio a'i dorri
1 tun o ffacbys
1 tun o domatos wedi'u torri
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
300ml o stoc llysiau (1 ciwb stoc)
400g o reis
1 llwy fwrdd o bowdr cyri (ychwanegwch fwy os ydych chi'n ei hoffi'n boethach)
Bara naan i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Mewn padell fawr, cyfunwch yr holl gynhwysion ac eithrio’r reis, ychwanegwch y stoc llysiau a’u cymysgu’n drylwyr.

  2. Berwch y cynhwysion ac yna troi’r gwres i lawr a gadael i’r cymysgedd fudferwi, gan droi’n achlysurol.

  3. Coginiwch am 30 munud tan fod y llysiau’n feddal a’r stoc wedi lleihau i gynhyrchu saws braf, trwchus.

  4. Coginiwch y reis yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn.

  5. Gweinwch y cyri gyda’r reis a’r bara naan cynnes.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos. Oerwch yn gyflym, o fewn 1 awr
Amser
Oergell am 24 awr
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.