Skip page header and navigation

Crwst caws

Crwst caws

Mae’n wych ar gyfer defnyddio pob math o gaws o'r oergell, defnyddiwch unrhyw gaws drewllyd cryf fel Gruyère, Stilton a chaws gafr.

Mae’n well gwneud y rhain a'u bwyta'r un diwrnod, ond maen nhw’n rhewi'r un mor dda
Gan Caroline Marson
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Dwy bastai caws briwsionllyd ar blât gwyn

Cynhwysion

375g o flawd codi
120g o gaws, wedi'i gratio
90g o fenyn wedi'i doddi, ac ychydig yn ychwanegol ar gyfer brwsio
125ml o laeth
1½ llwy de o halen
¼ llwy de o bupur cayenne
Olew ar gyfer iro’r tun

Llenwad

100g o gaws hufen neu Boursin
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae Gruyère, Stilton a chaws gafr yn gweithio cystal hefyd.
2 lwy fwrdd o gennin syfi wedi'u torri
Gall fod yn ffres, wedi'i rewi neu wedi'i sychu.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 220°C (425F) marc 7, a dal y rhidyll ymhell uwchben dysgl fawr a hidlo’r blawd gyda’r halen a’r pupur cayenne.

  2. Gwnewch bant yn y blawd ac ychwanegu’r menyn wedi’i doddi, y llaeth, y dŵr, hanner y caws wedi’i gratio, dŵr a’i gymysgu gyda fforc tan ei fod yn gwneud toes a’i dynnu at ei gilydd yn ofalus.

  3. Gosodwch y toes ar fwrdd â blawd ysgafn arno a’i dylino’n ysgafn am ychydig eiliadau tan ei fod yn llyfn. Gan ddefnyddio un llaw, gwastatáu’r toes tan ei fod yn 2cm o drwch cyfartal. Gan ddefnyddio torrwr crwn rhychog neu dorrwr crwn llyfn, torrwch y toes i’r maint a ddymunir a’i roi ar silff pobi â menyn ysgafn.

  4. Brwsiwch â menyn a gwasgaru’r Cheddar sy’n weddill ar ei ben a’i bobi heb ei orchuddio, mewn ffwrn boeth am tua 20 munud neu tan ei fod wedi brownio’n ysgafn; cyn ei droi ar restl weiren.

  5. I lenwi, cymysgwch y caws hufen gyda’r cennin syfi a’i rannu yn ei hanner cyn ei daenu gyda chaws hufen a’i weini’n gynnes.

  6. I rewi ymlaen llaw: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 4 a’i oeri a’i bacio mewn cynwysyddion aerglos am hyd at 3 mis.



    I’w ddefnyddio: Rhowch ar glawr pobi a’i goginio ar 180°C (350°F) marc 4 am 10 munud neu tan ei fod wedi dadmer ac yn gynnes. Cwblhewch y rysáit.

     

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell neu rewgell
Ble i’w storio
Oergell 1 diwrnod, rhewgell 3 mis
Aildwymo
Gorau oll fyddai ei weini’n ffres. Pobwch yn y ffwrn tan ei fod yn chwilboeth ac ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.