Skip page header and navigation

Cawl taco

Cawl taco

Mae'r rhyfeddod tri-tun hwn gymaint yn fwy na chyfanswm ei rannau - cawl tanbaid a chynhesol sy'n ddigon sylweddol i blesio'r teulu cyfan. Mae'n gweithio'n dda ar ei ben ei hun, neu fel sylfaen ar gyfer topin ychwanegol – rydyn ni'n hoffi creision tortila!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30 munud
Cawl Taco

Cynhwysion

2 x tun o domatos wedi'u torri
1 x tun o ffa du/ffa pinto
1 x tun o ffa coch/ffa coch mewn saws tsili
1 x tun o india-corn
2 x winwnsyn wedi'i dorri (neu winwnsyn wedi'i rewi)
2 x ewin o arlleg
1 litr o stoc llysiau
2 lwy fwrdd o biwrî tomato
2 lwy de o bowdr tsili neu bast chipotle
1 llwy de o gwmin
Leim, coriander a chreision tortila i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Ffriwch eich winwnsyn wedi’i dorri mewn ychydig o olew olewydd dros wres canolig tan ei fod yn feddal. Unwaith y byddant yn feddal, dylid ychwanegu eich garlleg, eich sbeisys a’ch piwrî tomato a’u coginio am funud arall.

  2. Ychwanegwch eich tomatos wedi’u torri a’ch stoc i mewn a’i fudferwi ar wres canolig am 10-15 munud.

  3. Cymysgwch yr hylif gyda chymysgydd llaw tan ei fod yn llyfn, cyn ychwanegu eich ffa ac india-corn a mudferwi’r gymysgedd am 15 munud arall.

  4. Ychwanegwch flas ac yna defnyddio llwy i roi’r gymysgedd mewn dysglau gyda’ch dewis o dopin – rydyn ni wrth ein boddau â sudd leim ffres, coriander a chreision tortila.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Ar yr hob neu yn y ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.