Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauYchwanegwch y corbys i sosban a’u gorchuddio â digon o ddŵr oer i’w gorchuddio gan tua 2 fodfedd a’u berwi, gan sgimio unrhyw lysnafedd sy’n codi i’r brig, ac yna lleihau’r gwres tan ei fod yn mudferwi. Ychwanegwch y tyrmerig a thalp hael o fenyn (os ydych yn figan, peidiwch â defnyddio’r menyn), ei gymysgu i mewn, yna ei orchuddio a’i adael i goginio’n ysgafn.
Mewn padell ffrio ar wahân, ffriwch yr hadau cwmin yn sych dros wres canolig tan eu bod wedi’u tostio ac yn felys ac yna eu tynnu o’r badell a’u gadael ar yr ochr. Toddwch ail dalp o fenyn yn yr un badell ffrio (neu defnyddiwch olew) a ffrio’r garlleg, y winwnsyn, y tsili a thomatos wedi’u torri’n ysgafn. Unwaith y bydd popeth yn dechrau troi’n euraidd, cymysgwch yr hadau cwmin wedi’u tostio, y garam masala a’r coriander a thynnu’r gymysgedd oddi ar y gwres nes bydd y corbys wedi meddalu’n llwyr.
Rhowch dro da i’r corbys, rydych chi am iddyn nhw fod yn fwy trwchus na chawl ond ddim mor drwchus â thatws stwnsh, ac yna ychwanegu eich cymysgedd winwnsyn wedi’i ffrio at y corbys, ychwanegu blas a’i weini gydag iogwrt ac ychydig o goriander gyda reis neu fara naan ar yr ochr.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.