Skip page header and navigation

Cawl letys

Cawl letys

Gellir defnyddio letys sydd wedi mynd yn llipa, ac mae'n cael ei drawsnewid yn hudol yn y cawl cyfoethog, soffistigedig hwn.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Powlen o gawl letys gwyrdd hufennog, trwchus

Cynhwysion

1 letysen fach – tua 150g
1.2 litr o stoc llysiau
1 cenhinen
150ml o hufen sengl

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Trimiwch y letys a’r genhinen, a’u torri’n ddarnau bach a’u rhoi mewn sosban fawr gyda’r stoc llysiau a’u berwi ac yna eu mudferwi am 15 munud tan fod y llysiau’n feddal.

  2. Tynnwch y gymysgedd oddi ar y gwres a gadael iddo oeri ychydig, yna trosglwyddo’r gymysgedd i ddysgl prosesydd bwyd neu hylifydd a phrosesu’r gymysgedd tan ei fod yn llyfn iawn.

  3. Arllwyswch y cawl yn ôl i’r sosban a throi’r hufen i mewn a’i ail gynhesu’n ysgafn i weini.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.