Skip page header and navigation

Cawl gyda chroen tatws

Cawl gyda chroen tatws

Nid yw ryseitiau newydd bob amser yn golygu dechrau o'r dechrau gyda set o gynhwysion newydd. Mae’r cawl blasus hwn yn enghraifft wych o hynny – rhowch gynnig arni.
Gan Hugh Fearnley-Whittingstall
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Powlen wen o gawl tatws trwchus gyda phersli ar ei ben

Cynhwysion

Tua 200g o groen tatws - tua chymaint ag y byddech chi'n ei gael o baratoi clawr o datws rhost o faint go lew
1 winwnsyn mawr neu 2 winwnsyn canolig, wedi'u deisio
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin a nionod yn gweithio'n dda yma.
500ml o laeth cyflawn
500ml o stoc cyw iâr neu lysiau
20g o fenyn, neu olew hadau rêp neu olew blodau’r haul
1 ddeilen llawryf
Dail saets wedi'u ffrio
Halen a phupur du ffres
2 lwy fwrdd o ddail persli wedi'u torri'n fân (dewisol)
Cig moch crimp (dewisol)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y menyn neu’r olew mewn sosban ganolig dros wres canolig-isel ac ychwanegu’r winwns, y ddeilen llawryf a phinsiad da o halen a’u ffrio’n ysgafn, tan fod y winwns yn feddal ond heb gymryd llawer o liw, tua 10 munud.

  2. Ychwanegwch y croen tatws a rhoi tro da iawn i bopeth am funud.

  3. Arllwyswch y llaeth a’r stoc, ac ychwanegu blas gyda halen a phupur a’i goginio tan ei fod yn berwi cyn lleihau’r gwres a’i fudferwi’n ysgafn tan fod y croen yn dyner iawn - tua 10 munud arall.

  4. Tynnwch oddi ar y gwres ac oeri’r gymysgedd ychydig, yna rhoi’r gymysgedd mewn prosesydd bwyd, cymysgydd neu ddefnyddio cymysgydd ffon tan ei fod yn llyfn iawn.

  5. Rhowch y cawl yn ôl yn y badell a’i ail gynhesu’n ysgafn ac yna ychwanegu digon o flas gyda halen a phupur a chymysgu’r persli wedi’i dorri i mewn, os ydych chi’n ei ddefnyddio.

  6. Gweinwch mewn dysglau cynnes, gyda dail saets wedi’u ffrio a darnau o gig moch crimp ar ben y cawl os ydych chi’n dymuno cyn ychwanegu pupur.

  7. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta’r tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.