Roedd Michael a Savanah yn enillwyr ein cystadleuaeth ysgolion ar thema Calan Gaeaf, 'Peidiwch â Bod ag Ofn Eich Sbarion' mewn partneriaeth â Scottish Business in the Community a Good Family Food.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCymysgwch y tatws, y mwstard, y sudd lemwn a chroen, y perlysiau a’r halen a phupur.
Ar glawr pobi, ychwanegwch halen a phupur ar yr eog i roi blas a’i grilio am 5-6 munud tan ei fod bron â’i goginio. Gadewch i oeri, tynnu’r croen a’i dorri’n fflochiau mawr.
Cymysgwch yr eog i’r gymysgedd tatws, gan ofalu peidio â gadael i’r fflochiau dorri’n ormodol ac yna ffurfio pedwar pati crwn o’r un maint.
Rhowch y blawd, yr wy wedi’i guro a’r briwsion bara mewn tri phlât ar wahân. Trochwch y pati i mewn i’r blawd (gan gael gwared ag unrhyw flawd sydd dros ben), yna ei drochi yn yr wy ac yna’r briwsion bara tan eu bod wedi’u gorchuddio.
Ffriwch y cacennau pysgod yn yr olew blodau’r haul dros wres canolig am tua 3 munud ar bob ochr tan fod y briwsion bara’n euraidd a’r cacennau pysgod wedi coginio drwyddynt.
Gweinwch y cacennau pysgod gydag ychydig o groen lemwn. Rydym yn awgrymu ffa gwyrdd wedi’u coginio a thomatos bacha r yr ochr.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.