Skip page header and navigation

Byrgyrs twrci ac india-corn

Byrgyrs twrci ac india-corn

Mae plant yn mynd gwirioni ar y byrgyrs hyn, gallwch eu cadw yn y rhewgell ar gyfer swper munud olaf i blant – gellir eu coginio yn syth o’r rhewgell. Gallech hefyd eu gweini fel peli cig bach gyda saws tomato a sbageti.

Am flas mwy sbeislyd, ychwanegwch bowdr tsili ychwanegol.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Dau fyrgyr twrci wedi'u gweini gyda corn melys a ffa

Cynhwysion

285g o india-corn tun
100g o hen fara gwyn
500g o friwgig brest twrci
1 wy
4 shibwns, wedi'u torri'n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae winwns, cennin neu nionod dodwy’n gweithio'n dda hefyd.
2½ llwy de o gwmin mâl
Halen
Pupur du
1 ewin garlleg, wedi'i blicio a'i fathru
Olew blodau’r haul ar gyfer ffrio
Byns neu roliau byrgyr i fynd gyda letys, ciwcymbr a saws tsili melys

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc 6.

  3. Mewn dysgl, gorchuddiwch y bara â dŵr a’i adael i socian am tua munud, yna ei wasgu’n dda a’i friwsioni i mewn i ddysgl fawr. Neu defnyddiwch friwsion bara ffres.

  4. Ychwanegwch yr india-corn, y  twrci, yr wy, y shibwns,  y cwmin, y garlleg a’r halen a phupur. Defnyddiwch eich dwylo i wasgu’r cymysgedd at ei gilydd.

  5. Siapiwch y briwgig yn fyrgyrs neu’n beli cig bach tua maint pêl golff.

  6. Cynheswch badell ffrio drom gydag olew blodau’r haul a choginio’r byrgyrs neu’r peli cig mewn sypiau, gan eu troi drosodd yn y badell tan eu bod yn frown euraidd, eu draenio a’u trosglwyddo i’r ffwrn a’u coginio am 5 munud arall neu tan eu bod wedi’u coginio.

  7. I rewi: Rhowch y byrgyrs neu’r peli cig ar glawr pobi fflat a’u rhoi yn y rhewgell tan eu bod wedi rhewi. Paciwch nhw mewn cynhwysydd aerglos, eu labelu a’u rhewi.



    I’w defnyddio: Cynheswch badell ffrio drom gydag olew blodau’r haul a choginio’r byrgyrs neu’r peli cig mewn sypiau wedi’u rhewi, gan eu troi yn y badell tan eu bod yn frown euraidd, eu draenio a’u trosglwyddo i ffwrn gynnes 200°C (400°F) marc 6, a’u coginio am 5 – 10 munud arall neu tan eu bod wedi coginio.



    I weini: Mewn bynsen neu roliau byrgyr, ynghyd â letys, ciwcymbr a saws tsili melys.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Coginiwch y byrgyrs yn syth o’r rhewgell mewn padell ffrio a’u trosglwyddo i ffwrn

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.