Defnyddio llysiau
Great recipes that use up vegetables as main ingredient. Might not necessarily be totally vetarian
Mae blodfresych yn aelod o deulu’r brassica fel bresych a brocoli, ac mae’r llysieuyn hwn yn glystyrau o flodigion sy’n edrych fel pennau blodau, gyda dail gwyrdd o’u cwmpas. Mae amrywiaethau gwyrdd a phorffor yn bodoli hefyd.
Moron crensiog, melys, blasus yw un o’r llysiau mwyaf hyblyg y gallwn eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Gallwn eu bwyta’n amrwd, eu gratio mewn salad, a phobi teisen foron.
Mae bresych yn rhan o deulu’r brassica, sy’n cynnwys blodfresych a brocoli. Mae llawer o wahanol fathau i ddewis o’u plith, fel coch, gwyn a gwyrdd. Gellir ei rwygo’n fân yn amrwd i wneud colslo, neu ei stemio a’i frwysio fel rhan o’ch cinio.
Mae brocoli wedi dod yn ffefryn rheolaidd yng nghartrefi’r Deyrnas Unedig ac mae ar gael mewn ambell i wahanol fath, yn cynnwys brocoli hirgoes. Gan mai aelod o’r teulu brassica yw brocoli, mae’n perthyn i fresych a blodfresych.
Dyma lysieuyn o liw porffor dwfn, ac mae’n un gwych i’w ychwanegu at y rhan fwyaf o brydau bwyd, fel salad neu gallech ei rostio a’i weini fel rhan o brif bryd o fwyd.
Mae ffa yn llysieuyn poblogaidd, yn llawn maeth, sy’n cyfrannu at eich pump y dydd.
Mae planhigyn wy yn rhan o’r un teulu â phupurau crwn, tomatos a thatws. Maen nhw’n wych mewn cyri, wedi’u grilio ar y barbeciw, ac wedi’u pobi i wneud prydau blasus o fwyd. Mae planhigyn wy yn rhan o’r un teulu â phupurau melys, tomatos a thatws. Maen nhw’n wych mewn cyri, wedi’u grilio ar y barbeciw, ac wedi’u pobi i wneud prydau blasus o fwyd.
- Bwyd dros ben
- Arbed amser ac arian
Tri theclyn i’ch helpu i arbed arian wrth goginio
Tri theclyn sydd efallai gennych yn y gegin yn barod, a gallant eich helpu i gadw eich biliau ynni yn is, gan fwynhau prydau blasus ar yr un pryd.
- Bwyd tymhorol
- Storio bwyd
Storio eich tatws: yr oergell amdani
Mae cymaint o ffyrdd o fwynhau tatws – sglodion, tatws rhost, a thatws trwy’u crwyn, mewn cawl neu gaserol.
- Bwyd tymhorol
- Bwyd dros ben
- Amser bwyta
Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Ionawr?
Dysgwch sut i fanteisio i’r eithaf ar ffefrynnau tymhorol y mis yma.