Lluniwyd y rysáit cawl hon ar gyfer defnyddio bwyd dros ben gan ein partner, Chefs @ School, i gael disgyblion i feddwl am fwyd a sut i'w arbed rhag mynd i’r bin.

Mae ffa yn llysieuyn poblogaidd, yn llawn maeth, sy’n cyfrannu at eich pump y dydd. Maen nhw’n cynnwys llawer o ffibr ac yn cynnwys fitamin K sy’n helpu i gadw’r corff yn iach. Gellir eu defnyddio mewn seigiau fel stiw, yn ogystal â’u stemio a’u defnyddio mewn salad.
Dylid cadw ffa ffres yn yr oergell yn eu pecyn gwreiddiol.
Gellir rhewi ffa mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
I’w rhewi: Gellir rhewi unrhyw ffa! Yn amrwd neu wedi’u coginio, sicrhewch fod ffa’n cael eu storio mewn cynhwysydd wedi’i selio cyn eu rhewi.
I’w dadrewi: pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell.
Cadwch y pennau y byddwch yn eu torri oddi ar eich ffa a’u rhoi i gadw mewn cynhwysydd wedi’i selio yn y rhewgell. Daliwch ati i ychwanegu crwyn a phennau llysiau eraill hefyd ac yna gwnewch stoc i’w ddefnyddio mewn rysetiau fel stiw, cyri a chawl. Jyst berwch nhw mewn dŵr am tuag 20 munud.
Mae ffa gwyrdd dros ben yn ychwanegiad gwych i seigiau tro-ffrio, omledau neu salad.
Ystyriwch gyfnewid ffa ffres am ffa wedi’u rhewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Lluniwyd y rysáit cawl hon ar gyfer defnyddio bwyd dros ben gan ein partner, Chefs @ School, i gael disgyblion i feddwl am fwyd a sut i'w arbed rhag mynd i’r bin.
Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?
Mae crwst pwff yn trawsnewid llysiau dros ben diflas yn bryd o fwyd newydd sbon!