Dyma rysáit newydd ar gyfer hwmws clasurol, gan ddefnyddio betys i roi ffresni, ysgafnder a bywiogrwydd.

Dyma lysieuyn o liw porffor dwfn, ac mae’n un gwych i’w ychwanegu at y rhan fwyaf o brydau bwyd, fel salad neu gallech ei rostio a’i weini fel rhan o brif bryd o fwyd. Mae’n llawn fitaminau a mwnau, a gallwch ychwanegu betys ar unrhyw sudd ffrwythau neu lysiau y byddwch yn eu paratoi hefyd.
Y ffordd orau o storio betys ffres yw yn gyfan, yn yr oergell i’w gadw’n ffres.
Gellir rhewi betys mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
I’w rewi: Mae’n well rhewi betys ar ôl ei goginio. Dylid berwi neu stemio’r betys yn gyntaf, wedyn gadael iddo oeri a’i roi mewn cynhwysydd wedi’i selio a’i rewi.
I’w dadrewi: pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell.
Does dim angen plicio betys. Gallwch ei rostio’n gyfan, neu wedi’i dorri’n lletemau, gyda’r croen. Mae’r dail hefyd yn flasus yn amrwd neu wedi’u coginio, fel betys arian neu sbigoglys.
Gallwch rostio betys dros ben sydd wedi gweld dyddiau gwell, a’u blendio gyda ffacbys i wneud hwmws, neu gratio betys amrwd dros ben a’u hychwanegu at fariau granola nad oes angen eu coginio.
Os oes rhai ar gael, ystyriwch brynu betys yn rhydd i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin. Cofiwch, mae betys yn dod mewn jariau a phecynnau parod.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Dyma rysáit newydd ar gyfer hwmws clasurol, gan ddefnyddio betys i roi ffresni, ysgafnder a bywiogrwydd.
Mae'r fersiwn iachach hon o nachos yn ffordd wych o ddefnyddio gwreiddlysiau gyda dipiau Mecsicanaidd a gellir ei weini fel byrbryd neu bryd cyntaf i rannu wrth ddiddanu.