Skip page header and navigation

Blodfresych

Rhewi? Yes
Tymor O ganol mis Mehefin ymlaen
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell ardderchog o fitamin C a fitamin K
Pen o flodfresych gwyn gyda chwpl o ddail

Mae blodfresych yn aelod o deulu’r brassica fel bresych a brocoli, ac mae’r llysieuyn hwn yn glystyrau o flodigion sy’n edrych fel pennau blodau, gyda dail gwyrdd o’u cwmpas. Mae amrywiaethau gwyrdd a phorffor yn bodoli hefyd. Gellir gwneud amryw o bethau â’r llysieuyn hwn, ei rostio neu ei stemio i wneud blodfresych mewn saws caws neu ei gratio i wneud reis blodfresych.

Sut i'w storio

Sut i storio blodfresych ffres

Keep cauliflower fresher for longer by storing in the fridge.Cadwch eich blodfresych yn yr oergell i’w gadw’n ffres yn hirach.

Rhewi blodfresych

Gellir rhewi blodfresych mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio blodfresych wedi’i goginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Blodfresych – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Sleisiwch eich blodfresych yn flodigion bach a’u blansio am 90 eiliad, yna eu hoeri mewn powlen o ddŵr rhew cyn eu rhewi. 

I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylid dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn coginio/aildwymo. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Cofiwch – mae coesynnau a dail blodfresych yn flasus hefyd! Coginiwch nhw gyda’r blodigion neu gallwch eu sleisio’n amrwd a’u hychwanegu at salad.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Hanner blodfresych dros ben? Defnyddiwch y gweddill – ie, y cwbl, dail a choesynnau a’r cwbl – mewn macaroni saws caws blodfresych! Neu gallwch ei gratio i wneud ‘reis’ blodfresych iach.

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch gyfnewid blodfresych ffres am flodfresych wedi’i rewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Blodfresych

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae blodfresych yn cynnwys llawer o fitamin C, sy’n helpu i warchod celloedd a’u cadw’n iach a chynnal croen, pibellau gwaed, esgyrn a chartilagau iach.
  • Mae hefyd yn ffynhonnell fitamin K – grŵp o fitaminau y mae eu hangen ar y corff i geulo gwaed, gan helpu anafiadau i wella.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Blodfresych

Os ydych chi eisiau syniad arall ar gyfer defnyddio hufen dros ben, mae hwn yn gyflym ac yn syml. Os nad oes gennych ddigon o hufen, yna gellir defnyddio crème fraîche neu laeth cyflawn i ychwanegu at yr hyn sydd ei angen arnoch.

Dysglaid gyfoethog o flodfresych wedi’i orchuddio â saws caws hufennog

Allai’r rysáit yma ddim bod yn haws, rysáit blodfresych blasus a grëwyd gan gogydd Tesco, Martyn Lee yn Sioe Frenhinol Cymru 2017. Ffordd wych o ddefnyddio’r llysieuyn cyfan – y coesyn, y dail a’r cyfan! Torrwch yn ddarnau a'i weini. Gwych fel pryd ochr gyda chigoedd rhost.

Blodfresych wedi’i rostio gyda dresin tahini oren a garnais o leimiau

Arbedwch y llysiau hynny o waelod yr oergell a rhoi bywyd newydd iddynt yn y cyri dyfeisgar hwn sydd mor ysgafn ag y mae'n iach. Rydym ni wedi defnyddio past cyri Madras (i roi cic ychwanegol) - gallwch chi ddewis eich ffefryn. Rhowch gyffyrddiad dilys iddo â reis basmati hefyd.

Cyri llyseiol mewn dysgl