Mae'r pryd llysieuol blasus hwn yn un gwych i'w gael wrth law yn y rhewgell ac mae'n ddewis llysieuol da ar gyfer prif bryd o fwyd y Nadolig.

Mae planhigyn wy yn rhan o’r un teulu â phupurau crwn, tomatos a thatws. Maen nhw’n wych mewn cyri, wedi’u grilio ar y barbeciw, ac wedi’u pobi i wneud prydau blasus o fwyd. Mae planhigyn wy yn rhan o’r un teulu â phupurau melys, tomatos a thatws. Maen nhw’n wych mewn cyri, wedi’u grilio ar y barbeciw, ac wedi’u pobi i wneud prydau blasus o fwyd.
Cadwch eich planhigyn wy yn yr oergell i sicrhau ansawdd a’i gadw’n ffres.
Gellir rhewi planhigyn wy mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
I’w rewi: Dylech sleisio a grilio’r planhigyn wy cyn ei rewi, i’w atal rhag mynd yn slwtsh. Rhowch ef mewn cynhwysydd wedi’i selio gyda label arno, a rhowch ef yn y rhewgell.
I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell.
Does dim angen plicio planhigyn wy, felly cadwch y croen arno wrth ei goginio.
Os byddwch yn rhostio planhigyn wy cyfan, pigwch dyllau ynddo gyda fforc cyn ei goginio, neu fe fydd yn ffrwydro!
Gormod o blanhigyn wy wedi’i rostio neu ei grilio dros ben? Gallwch ei roi mewn blendiwr gyda garlleg, lemon a sbeisys i wneud dip hyfryd o’r enw Baba Ganoush neu ei ychwanegu at gyri, neu gallech hyd yn oed wneud brechdan.
Ystyriwch brynu eich planhigion wy yn rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.
Mae sleisys o blanhigyn wy wedi’u grilio ar gael i’w prynu o rewgell y siop, neu gallech ystyried cyfnewid planhigyn wy ffres am gymysgedd courgettes, pupurau, planhigyn wy ac ati o’r rhewgell (gelwir y rhain yn gymysgedd llysiau Môr y Canoldir weithiau). Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Mae'r pryd llysieuol blasus hwn yn un gwych i'w gael wrth law yn y rhewgell ac mae'n ddewis llysieuol da ar gyfer prif bryd o fwyd y Nadolig.
Gellir ychwanegu bron iawn unrhyw lysiau dros ben at y cyri hwn, ac mae hefyd yn wych i’w ail gynhesu ar gyfer cinio drannoeth.
Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?