Skip page header and navigation

Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Ionawr?  

Dyma ni ar drothwy blwyddyn newydd, ac os mai bwyta mwy o ffrwythau a llysiau ffres lleol yw eich adduned blwyddyn newydd, rydych chi wedi dod i’r lle iawn! Efallai ei bod hi’n ganol gaeaf, ond y newyddion da yw bod digonedd yn tyfu o hyd. Dechreuwch eich blwyddyn yn yr un modd ag yr hoffech iddi barhau, drwy gynnwys cynnyrch lleol, ffres, heb filltiroedd awyr, yn eich cynlluniau bwyd ar gyfer mis Ionawr – daliwch ati i ddarllen am ysbrydoliaeth.

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Ionawr 

O edrych ar ganllaw’r Vegetarian Society, gallwn edrych ymlaen at goginio gyda’r ffrwythau a llysiau ffres canlynol yn ein cynlluniau bwyd ar gyfer mis Ionawr:

Afalau, Betys, Sbrowts, Moron, Seleriac, Seleri, Sicori, Artisiog Jerwsalem,  Cêl, Cennin, Madarch, Winwns, Pannas, Gellyg, Bresych Coch, Salsiffi, Bresych Crych, Bresych Deiliog, Shibwns, Gwrd, Swêj, Maip, Bresych Gwyn.

Dyma gasgliad eang o awgrymiadau ar gyfer rysetiau blasus ichi sy’n cynnwys rhai o’r cynhwysion hyn, a gallwch ddod o hyd i lawer mwy o syniadau ar gyfer cynllunio prydau bwyd mis Ionawr yn ein canllawiau misol blaenorol: 

Seleri

Mae seleri bob amser yn gynhwysyn defnyddiol i’w gael wrth law, ac yn un hawdd ei ddefnyddio – a hynny i wneud mwy na rhoi garnais ar eich gwydriad o’r Fari Waedlyd! Mae’n wych i’w dorri’n fân gyda llysiau eraill a’i ychwanegu at gawl neu stiw, fel ein stiw llysiau gyda bresych menyn. Gallwch hefyd ei ychwanegu at gyri, fel ein cyri llysiau cymysg, ac a wyddoch chi ei fod hefyd yn ffordd wych o gadw cig yn llaith wrth ei rostio? 

Sicori

Os nad ydych chi wedi defnyddio sicori yn eich coginio o’r blaen, mae gwledd yn aros amdanoch! Enw arall ar sicori yw endif, ac mae’n ffordd wych o ychwanegu crensh a blas at salad, ond gallwch ei fwynhau wedi’i goginio hefyd – mae ei rostio’n arbennig o flasus. Ond mae sicori’n serennu pan gaiff ei ddefnyddio fel ‘llwyau’ bach, gan eu llenwi gyda thameidiau blasus o’ch hoff gymysgeddau – o salad Cesar dros ben, i gaws Brie a llugaeron sydd dros ben ers y Nadolig. Perffaith ar gyfer byrbryd neu fel canapés!

Bresych crych

Fe wnaethom ni drafod bresych yn ei holl ogoniant yn ein blog beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Chwefror, ond mae’n haeddu cael ei grybwyll eto’r mis yma, ar ffurf bresych crych. Gyda Noson Burns ar y 25ain o’r mis a hagis ar y fwydlen, beth am weini ein pastai hagis blasus gyda bresych crych a bacwn yn gydymaith iddo? Gallwch hefyd ei frwysio, ei rostio, neu ei ychwanegu at eich tro-ffrio, seigiau pasta, stiwiau a chawl. Unrhyw beth, a dweud y gwir! 

Maip

I gloi, er nad oes gan faip enw da fel llysieuyn cyffrous, mae’n syndod gymaint o ffyrdd sydd i’w defnyddio. Maen nhw’n dda i’w bwyta mewn unrhyw rysáit sy’n galw am wreiddlysiau, fel ein pasteiod cinio rhost dros ben. Maen nhw’n wych hefyd i’w torri’n fân ynghyd ag unrhyw lysiau sydd angen eu defnyddio a’u cynnwys yn y rysáit quesadilla hyfryd yma. 

Ewch ati i gael hwyl yn meddwl am beth i’w gynnwys ar eich cynllun prydau bwyd mis Ionawr, a chofiwch fod llu o rysetiau eraill ar gael yn ein banc rysetiau! Ewch i fwrw golwg ar ein post ar beth sydd yn ei dymor ym mis Chwefror i gael eich dos reolaidd o ysbrydoliaeth yn y gegin y mis nesaf.

 

Rhannu’r post blog hwn