Skip page header and navigation

Maen nhw’n hawdd eu tyfu, yn werth gwych am arian, ac yn syml i’w coginio – y daten syml, amryddawn yw gwir arwr y byd bwyd. Mae’n drueni mawr felly mai’r cynhwysyn hynod hwn yw’r prif fwyd a gaiff ei wastraffu! Rydym yn gobeithio y bydd canllawiau diwygiedig yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn newid hynny maes o law; y prif bwynt yw: 

Dylid storio tatws yn yr oergell! 

Wir i chi – er bod yr hen ganllawiau’n nodi mai mewn lle oer, sych a thywyll, fel cwpwrdd, y dylid cadw tatws, rydyn ni nawr yn argymell cadw tatws yn yr oergell yn oerach na 5 gradd Celsius (gwiriwch fod eich oergell ar y tymheredd optimaidd i helpu eich holl ffrwythau a llysiau bara’n hirach!). Mae’n ymddangos bod gwneud hyn yn eu cadw’n ffres hyd at deirgwaith yn hirach, felly bydd gennych lawer mwy o amser i goginio rhywbeth blasus gyda nhw. 

Roedd y rhesymeg a oedd yn sail i’r hen ganllaw yn ymwneud â’r posibiliad y byddai siwgrau ychwanegol yn ffurfio wrth i datws gael eu cadw yn yr oergell – siwgrau a all droi’n acrylamid wrth gael eu ffrio, eu rhostio neu eu pobi. Fodd bynnag, mae ymchwil gwyddonol estynedig, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, nawr wedi dangos nad yw storio eich tatws yn yr oergell yn cynyddu’r potensial am acrylamid o’i gymharu â’u storio mewn cwpwrdd ar dymheredd ystafell. 

Cafodd y gwaith ymchwil ei oruchwylio gan y Committee on the Toxicity of Chemicals in Food, Consumer Products and the Environment (COT) ac fe’i hadolygwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, felly gallwch fod yn hyderus yn y canfyddiadau. Ac, oherwydd bod y wyddoniaeth bellach wedi dangos nad oes unrhyw faterion diogelwch ynghlwm â chadw eich tatws yn yr oergell yn hytrach na mewn cwpwrdd, mae’n gwneud synnwyr eu cadw yn y lle sydd am eu cadw’n ffres yn hirach – yr oergell! 

Mae aelwydydd y Deyrnas Unedig yn gwastraffu 180,000 o dunelli o datws ffres bob blwyddyn am nad ydym yn eu defnyddio mewn da bryd, felly mae gan y newid hwn y potensial i gael effaith aruthrol ar wastraff bwyd. Llwyddiant!

Dim ond megis dechrau yw storio tatws yn y lle iawn 

Mae cadw eich tatws (a bwydydd eraill!) yn y lle iawn yn un o blith nifer o ffyrdd y gallwch fanteisio i’r eithaf ar y cynhwysion amrwd a brynwch. Wrth drafod tatws, mae llawer y gallwch ei wneud i sicrhau nad ydyn nhw’n mynd yn wastraff, fel: 

  • Prynwch nhw’n rhydd – yn hytrach nac wedi’u bagio ymlaen llaw, fel mai dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch y byddwch yn ei brynu. 
  • Rwbiwch yr egin oddi ar eich tatws – maen nhw’n dal i fod yn iawn i’w bwyta ar ôl iddynt ddechrau egino, cyn belled â’ch bod yn tynnu’r egin oddi arnynt!
  • Gallwch eu rhewi wedi’u berwi’n rhannol neu wedi’u coginio, ond ddim yn amrwd – rhowch nhw mewn cynhwysydd aerglos a’u rhewi am hyd at dri mis, gan eu dadmer yn yr oergell neu’r microdon a’u bwyta o fewn 24 awr. 
  • Gadewch y crwyn arnynt – yn y croen mae llawer o’r maeth, felly peidiwch ei wastraffu! Gallwch wneud unrhyw beth y byddech yn ei wneud gyda thatws wedi’u plicio gyda thatws yn eu crwyn – hyd yn oed tatws stwnsh! – cyn belled â’ch bod yn eu golchi’n drylwyr yn gyntaf. 
  • Mwynhewch eich bwyd dros ben – mae tatws llawn cystal y diwrnod wedyn. Tatws wedi’u berwi dros ben? Sleisiwch nhw a’u ffrio i wneud cinio blasus. Wedi gwneud gormod o datws stwnsh? Cynlluniwch gacen bysgod ar gyfer swper yfory. 

Yn yr un modd â’ch holl gynhwysion amrwd, gallwch hefyd ddefnyddio ein cynllunydd dognau defnyddiol i’ch helpu i gyfrifo’n union faint y mae ei angen arnoch. 

Rysetiau tatws trawiadol 

Yn olaf, fyddai’r un blog am datws yn gyflawn heb ddetholiad o rysetiau blasus i’w mwynhau. Tatws yw un o’r cynhwysion mwyaf amrywiol sydd gennym, felly hyd yn oed os bydd gennych lond sach ohonynt, mae llu o ffyrdd i’w coginio heb syrffedu ar datws! Dyma rai o’n ffefrynnau. 

  • Sglodion trwchus wedi’u grilio – galwch weini’r rhain fel saig ar y naill ochr, neu eu llwytho â hufen sur, caws a salsa i wneud byrbryd delfrydol i’w rannu gyda ffrindiau! 
  • Babka tatws – pryd blasus ar yr ochr, neu brif gwrs llysieuol blasus. 
  • Pizza cennin a thatws – rysáit pizza hawdd sy’n ffordd wych o ddefnyddio tatws wedi’u coginio. 
  • Selsig, winwns a thatws ar glawr pobi – does dim haws na tharo llond clawr pobi o gynhwysion i’r ffwrn! Gyda dim ond deg munud o amser paratoi, dyma rysáit ddelfrydol ar gyfer swper canol wythnos sy’n defnyddio tatws. 
  • Pastai bugail ffacbys a chorbys – mae unrhyw bastai bugail neu bastai’r tyddyn yn ffordd ddelfrydol o ddefnyddio tatws, ond mae cynhesrwydd sbeislyd y bastai hon yn flasus iawn, diolch i’r powdr cyri. Bendigedig ar noson oer o aeaf! 
  • Patatas bravas gyda gwedd Brydeinig – Prydain a Sbaen yn un mewn dehongliad ffres ar y pryd tapas poblogaidd hwn. 
  • Cacennau eog – ffordd syml o gael pryd bwyd blasus newydd allan o datws stwnsh dros ben. 

I ddysgu mwy am fanteisio i’r eithaf ar eich tatws, darllenwch ein tips tatws, a gallwch ddarganfod llawer mwy o rysetiau blasus ar gyfer tatws. 

Rhannu’r post blog hwn