Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?

Mae bresych yn rhan o deulu’r brassica, sy’n cynnwys blodfresych a brocoli. Mae llawer o wahanol fathau i ddewis o’u plith, fel coch, gwyn a gwyrdd. Gellir ei rwygo’n fân yn amrwd i wneud colslo, neu ei stemio a’i frwysio fel rhan o’ch cinio. Mae bresych yn cyfrif fel un o’ch 5 y dydd.
Dylid storio bresych yn yr oergell.
Gellir rhewi bresych mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
I’w rewi: Blansio bresych wedi’i sleisio am 90 eiliad, wedyn ei roi mewn dŵr rhew cyn ei rewi.
I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’u dadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio. Dylech wirio’r canllawiau ar y pecyn ar fwydydd o’r rhewgell bob amser.
Gallwch rwygo calonnau bresych i mewn i salad, cawl neu stiw.
Gallwch sleisio neu gratio bresych, moron a winwns amrwd sydd dros ben a’u cymysgu mewn mayonnaise i wneud colslo cartref hawdd a sydyn. Gallwch adfywio bresych mewn dŵr rhewllyd os bydd angen hwb arno.
Ystyriwch gyfnewid bresych ffres am fresych wedi’i rewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Your food is more than its shape, colour and price. Your food has an important role to play to help keep you healthy and with enough energy to live your life how you wish to.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?
Brecinio diwastraff blasus, sy’n defnyddio’r daten, pannas, brocoli, shibwns a pherlysiau yn gyfan (coesynnau, crwyn a’r cwbl). Neu gallwch eu cyfnewid am unrhyw lysiau dros ben sydd gennych yn y tŷ!
Rysáit gwych y gellir ei gwneud gydag unrhyw lysiau dros ben.