Gellir addasu'r rysáit hon i weddu i'r hyn sydd gennych yn yr oergell. Bydd cig eidion wedi’i stiwio yn gweithio cystal â chig eidion wedi'u deisio, torrwch ef eich hun ymlaen llaw.

Digon i fwydo bron i 30 o dunelli o foron i geirw Siôn Corn bob dydd! Maen moron mor amryddawn, ac mae llawer iawn o ffyrdd i ddefnyddio eich bwyd dros ben, felly dylech eu defnyddio, nid eu taflu i’r bin. Dysgwch sut gallwch ddefnyddio eich moron mewn gwahanol brydau bwyd a sut i’w rhewi at rywdro eto hefyd.
Moron crensiog, melys blasus yw un o’r llysiau y gallwn eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Gallwn eu bwyta’n amrwd, eu gratio mewn salad, a phobi teisen foron. Waeth beth eu siâp neu faint, darllenwch i ddarganfod mwy am un o’n hoff lysiau; gadewch inni eu hachub o’r bin a’u defnyddio yn lle eu taflu.
Y lle gorau i storio moron yw yng ngwaelod yr oergell.
Gellir rhewi moron amrwd neu wedi’u coginio am hyd at 2 wythnos.
Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
I’w rhewi: Torrwch y moron a’u rhewi ar gynhwysydd fflat nes byddant yn soled. Trosglwyddwch nhw i gynhwysydd neu fag aerdyn ac ychwanegu label. Dylai’r label nodi beth yw’r bwyd a’r dyddiad y cafodd ei rewi. Defnyddiwch nhw o fewn cwpl o wythnosau.
I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylech eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn eu coginio/aildwymo. Dylid gwirio’r canllawiau ar becynnau bwydydd wedi’u rhewi bob amser.
Does dim angen plicio moron. Dim ond eu sgrwbio cyn eu defnyddio. Gellir bwyta dail moron hefyd. Gallwch eu blendio i wneud ‘pesto’ pen moron gydag olew olewydd, caws, garlleg a chnau.
Gallwch wneud sudd o’ch moron dros ben gydag ychydig o sinsir a’i gymysgu â chwrw sinsir, lemonêd, leim, neu laeth cnau coco am sudd mwy ecsotig, adfywiol, llawn blas a maeth. Neu gallwch eu defnyddio drwy eu gratio ar salad, neu bobi teisen neu fyffins moron. Gallwch sleisio neu gratio bresych amrwd, moron a winwns a’u cymysgu mewn mayonnaise i wneud colslo cartref hawdd a sydyn.
Defnyddiwch y rhain mewn seigiau fel cawl, potes a chyri.
Ystyriwch brynu moron rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.
Ystyriwch gyfnewid moron ffres am foron wedi’u rhewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach. Mae moron mewn tun ar gael hefyd.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Gellir addasu'r rysáit hon i weddu i'r hyn sydd gennych yn yr oergell. Bydd cig eidion wedi’i stiwio yn gweithio cystal â chig eidion wedi'u deisio, torrwch ef eich hun ymlaen llaw.
Ydych chi ar frys? Nid oes angen i chi wneud y past cyri o'r dechrau – gallwch ddefnyddio past cyri Thai gwyrdd neu goch parod.
Gall bron iawn unrhyw beth sy'n agos at ei ddyddiad defnyddio gael ei drawsnewid ar ffurf omled Sbaenaidd. Gallwch gynnwys tatws wedi'u coginio, llysiau wedi'u coginio fel pys, cennin, moron, courgettes, winwns ac ati, y dafell olaf o gig moch a chaws sy'n mynd yn galed o amgylch yr ymylon.