Skip page header and navigation

1. Ffwrn ffrio (air fryer)

Rhan o’r rheswm y mae’r ffwrn ffrio mor boblogaidd yw bod modd coginio cymaint o wahanol bethau ynddi – ac mae llawer iawn llai o lanast i’w glirio ar ei ôl o’i gymharu â dulliau ffrio mewn ffrïwr saim dwfn traddodiadol. Mae hefyd yn rhatach na defnyddio ffwrn!

Crimp ar y tu allan, brau suddlon ar y tu mewn: beth bynnag fyddwch chi’n ei roi yn eich ffwrn ffrio, gallwch edrych ymlaen iddo fod wedi’i goginio’n berffaith diolch i’r ffordd glyfar y mae dargludiad yn cynhesu’r bwyd i’w goginio’n gyfartal ac yn gyflym. Mae’r grwpiau bwydydd y gallwch eu rhoi yn y ffwrn ffrio yn cynnwys:

  • Cig a physgod – cyw iâr, bacwn, peli cig, eog; pob math! 
  • Proteinau eraill – fel wyau (omledau neu wyau wedi’u berwi’n galed) a thoffw
  • Llysiau – o sbrowts i fadarch, mae llawer o’r hyn sydd gennych yn yr oergell yn hapus iawn o gael eu coginio yn y ffwrn ffrio (gweler isod am yr eithriadau!).
  • Carbohydradau – reis wedi’i ffrio, sglodion, pizza, a hyd yn oed rafioli – bydd y ffwrn ffrio yn coginio eich hoff garbohydradau mewn dim amser
  • Pwdinau – mae toesenni, myffins a chwcis oll yn ddewisiadau gwych i’w coginio yn y ffwrn ffrio

Mae cyfyngiadau ar hyd yn oed y ffwrn ffrio amryddawn, dyma bethau na ddylech eu rhoi ynddi: 

  • Darnau mawr o gig neu gyw iâr cyfan – wnân nhw ddim coginio’n gyfartal drwyddynt 
  • Bwydydd sydd wedi’u lapio mewn cytew gwlyb, fel tempwra – bydd y cytew’n disgyn oddi arnynt, gan fod angen iddo fod mewn olew poeth i galedu
  • Caws – mae’n toddi, yn glynu i’r gwaelod, ac yn gwneud llanast! 
  • Brocoli – mae’n dueddol o sychu
  • Dail gwyrdd, fel sbigoglys – mae’r rhain yn hedfan o gwmpas yn y ffwrn ffrio ac ni fyddan nhw’n coginio’n iawn, er bod cêl yn gallu gweithio os rowch bwysau arno drwy roi olew olewydd drosto

     

Rhai o oreuon rysetiau ffwrn ffrio

Dechrau da i’r diwrnod gyda bacwn ac wy o’r ffwrn ffrio – dyma ffordd wych o gael bacwn crimp heb iddo fod yn llawn olew. Gallwch wneud wyau wedi’u berwi’n galed, wedi’u potsio, neu wedi’u sgramblo yn y ffwrn ffrio, ac mae omledau’n gweithio’n dda iawn hefyd. Os oes gennych ddarnau o lysiau dros ben sydd angen eu defnyddio, fel madarch neu bupur, beth am eu torri a’u hychwanegu at eich omled? Mae’n ffordd wych o leihau gwastraff bwyd! 

Yn hwyrach yn y dydd, gallwch ddefnyddio’ch ffwrn ffrio i greu brest cyw iâr neu adenydd cyw iâr sbeislyd. Ychwanegwch sglein i ychwanegu blas, gan fod sesnin rhydd fel perlysiau a sbeisys yn dueddol o chwythu oddi ar y bwyd yn y ffwrn ffrio. Gallwch goginio stêc a sglodion yn y ffwrn ffrio hefyd, yn ogystal â chacenni eog

Mae’r ffwrn ffrio yn ffrind ffyddlon gyda phrydau ar yr ochr hefyd. Beth am wneud sglodion courgette fel dewis iach yn hytrach na gwneud sglodion neu letemau tatws? Mae’r ffwrn ffrio yn ddull gwych ar gyfer coginio courgette a phlanhigyn wy, gan fod y gwlybaniaeth yn y llysiau hyn wrth iddynt gael eu coginio’n cael ei anweddu gan roi canlyniad crimp, blasus ichi.

Mae ffwrn ffrio yn ddewis arbennig o dda ar gyfer paratoi bwyd y gellir ei goginio’n syth o’r rhewgell (edrychwch ar y pecyn i weld a yw hynny’n opsiwn), neu aildwymo bwyd dros ben o’r rhewgell cyn belled â’ch bod yn sicrhau eu bod wedi dadmer yn llawn.

2. Crochan araf

Os nad ydych wedi darganfod gwychder y crochan araf hyd yma, dyma drît i chi dros y gaeaf. Mae’r teclynnau clyfar hyn wedi bod ar y farchnad ers blynyddoedd maith, ond mae’r argyfwng costau byw yn golygu eu bod wedi dod yn gynyddol boblogaidd. Y cwbl mae angen ichi ei wneud yw llenwi’r crochan â’ch cynhwysion a gadael i’r crochan wneud ei waith – fe gewch fwynhau arogleuon hyfryd y bwyd yn llenwi eich cegin yn ystod yr oriau nesaf, bron fel petai rhywun arall yn coginio ichi! 

Nid yn unig y mae crochan araf yn rhad i’w redeg, mae’n ddewis gwych hefyd ar gyfer creu prydau blasus o fwyd sy’n defnyddio unrhyw beth sy’n llechu yn eich oergell. Gallech ystyried pethau fel stiw trwchus, cawl cynhesol a chyri sbeislyd, a gallwch yn hawdd ychwanegu unrhyw lysiau sydd angen eu bwyta at y rhain. Dydi’r crochan araf ddim yn gystal dewis ar gyfer cigoedd di-fraster a chig yn ei groen, nac ar gyfer llysiau brau fel courgette ac asbaragws. Dylech osgoi rhoi cynnyrch llaeth yn eich crochan araf, gan eu bod yn dueddol o geulo.

Mae’r crochan araf yn ddewis gwych ar gyfer coginio mewn swp, felly gallwch arbed arian drwy gynyddu’r cynhwysion i wneud swp mwy a’i rewi fesul dogn i gael prydau hawdd o fwyd rywdro eto.

3. Microdon 

Yn olaf, mae’r microdon syml yn declyn arall y gallwch fanteisio mwy arno os ydych chi’n chwilio am ffyrdd o arbed ynni. Mae ffwrn microdon yn cynhesu bwyd yn gyflym, a byddai’n cymryd llawer hirach mewn ffwrn neu ar stof sy’n llowcio ynni, yn ogystal â bod yn declyn defnyddiol ar gyfer dadmer ac aildwymo bwyd rydych wedi bod yn ei gadw yn y rhewgell. Maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer mwynhau bwyd dros ben y diwrnod wedyn, hefyd! 

Ond mae mwy i’r microdon na’r tasgau syml hynny. Wyddoch chi fod modd ei ddefnyddio i stemio tatws a llysiau yn gyflymach na’r stof? Jyst rhowch nhw mewn cynhwysydd sy’n addas i’r microdon, gyda thua dwy lwy fwrdd o ddŵr a rhoi caead arno i gadw’r stêm yn y ddysgl. Mae tatws trwy’u crwyn yn cymryd llawer iawn llai o amser yn y microdon o’i gymharu ag yn y ffwrn, ac mae risoto yn y microdon yn golygu y gallwch osgoi’r drafferth (a’r ymdrech!) o droi’r cwbl ar y stof am hydoedd. 

A dweud y gwir, mae rysetiau microdon ar gyfer y rhan fwyaf o fwydydd, o basta i tsili i bysgod, ac unwaith y dechreuwch ddefnyddio mwy ar y teclyn defnyddiol hwn, fe fyddwch yn rhyfeddu mor ddefnyddiol y gall fod. Gallwch hyd yn oed fod yn greadigol a phobi yn y microdon – wir i chi! Chwiliwch ar Google am ‘microwave mug cake’ ac fe ddowch o hyd i bob math o rysetiau blasus ar gyfer teisennau sy’n coginio mewn dim ond un funud. Llai o amser, llai o ymdrech, llai o ynni; mae’n llwyddiant ym mhob ffordd! Bon appétit!

Rhannu’r post blog hwn