Defnyddio llysiau
Great recipes that use up vegetables as main ingredient. Might not necessarily be totally vetarian
- Bwyd dros ben
- Amser bwyta
- Bwyd tymhorol
Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Awst?
Cyfres o tips syml ar sut i ddefnyddio ein llysiau a ffrwythau hafaidd ffres hyfryd sydd yn eu tymor ym mis Awst.
- Bwyd tymhorol
- Bwyd dros ben
- Amser bwyta
Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Rhagfyr?
Darllenwch i ddarganfod beth sy’n lleol ac yn ffres ym mis Rhagfyr i helpu eich cynlluniau bwyd Nadoligaidd.
Mae pannas yn rhan o deulu’r Apiaceae sy’n cynnwys seleri, persli a ffenigl. Gwreiddlysieuyn poblogaidd a gaiff ei ddefnyddio gydol y flwyddyn, gellir ei weini wedi’i rostio, wedi’i stemio, neu wedi’i stwnsio, yn ogystal â bod yn ychwanegiad gwych i gawl neu stiw.
Mae winwns yn llysieuyn poblogaidd a gaiff ei ddefnyddio mewn llawer o seigiau sawrus. Maen nhw’n rhan o ddosbarthiad aliwm y teulu lilis, ynghyd â chennin, garlleg a chennin syfi, ac maen nhw ar gael mewn amrywiaeth o siapau, meintiau, blasau a lliwiau, yn cynnwys shibwns a winwns coch a gwyn.
Mae madarch, math o ffwng, yn fwyd poblogaidd a gaiff ei ddefnyddio mewn llawer o wahanol rysetiau. Mae llawer o wahanol fathau ar gael, yn cynnwys madarch botwm, wystrys y coed, a madarch porcini.
Mae llawer o wahanol fathau o letys ar gael, yn cynnwys rhai sydd â dail ystwyth fel letys crwn, a rhai sydd â dail crimp fel letys crensiog.
Mae cennin yn ddewis poblogaidd yn y gegin, a gellir eu defnyddio yn lle winwns os bydd arnoch angen defnyddio rhai sydd gennych dros ben. Maen nhw’n rhan o’r teulu aliwm ynghyd â winwns a garlleg, ac maen nhw’n llawn maetholion.
Dyma fwyd poblogaidd yn y Deyrnas Unedig; mae ciwcymbr yn llawn microfaetholion ac yn gynhwysyn sylfaenol mewn salad a brechdanau.
Mae courgettes yn rhan o’r un teulu â chiwcymbr, gwrd a melon, ac maen nhw’n fwyd poblogaidd am fod llawer o ffyrdd o’u defnyddio. Gellir eu defnyddio yn y rhan fwyaf o seigiau sawrus, yn ogystal â rhai seigiau melys.
Mae seleri’n dod o’r un teulu â moron. Mae’n cynnwys llawer o ddŵr a llawer o fitaminau a mwnau yn ogystal â bod yn ffynhonnell dda o ffibr. Gellir bwyta’r llysieuyn cyfan – y dail, y coesynnau a’r craidd oll.