Skip page header and navigation

Mae’r Dolig yn nesáu, ac mae hynny’n golygu bod gwledd o ddanteithion i’w mwynhau’r mis yma. Mae hynny’n cynnwys y cynnyrch lleol sy’n dal i ddod i mewn o’r caeau yn ystod mis Rhagfyr, yn cynnwys Marmite y byd llysiau – sbrowts! P’un a ydych chi’n ffan o sbrowts neu’n eu casáu, os oes gennych chi lysiau Nadoligaidd i’w defnyddio’r mis yma, yna darllenwch isod am ysbrydoliaeth ar gyfer cynllunio prydau bwyd dros yr Ŵyl…

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Rhagfyr

Yn ôl canllaw hynod ddefnyddiol y Vegetarian Society, dyma’r ffrwythau a llysiau sy’n dda i’w cynnwys yn eich cynlluniau prydau bwyd ym mis Rhagfyr: 

Afalau, Betys, Sbrowts, Moron, Seleriac, Seleri, Cnau Castan, Sicori, Llugaeron, Artisiog Jerwsalem, Cêl, Cennin, Madarch, Winwns, Pannas, Gellyg, Tatws, Pwmpenni, Cwins, Bresych Coch, Salsiffi, Bresych Crych, Swêj, Betys Arian, Maip, Berwr y Dŵr, Pwmpen y Gaeaf, Bresych Gwyn 

Isod, gwelwch nifer o syniadau blasus ar gyfer defnyddio rhai o’r cynhwysion ffres hyn yn eich coginio dros gyfnod yr Ŵyl. Cofiwch, gallwch ddod o hyd i fwy fyth o syniadau ar gyfer mis Rhagfyr yn ein canllawiau ar gyfer misoedd blaenorol:  

 

Sbrowts

P’un a ydych chi’n ffan o sbrowts neu’n eu casáu, maen nhw’n rhan annatod o ginio Nadolig yma yn y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n arbennig o flasus wedi’u cyfuno â bacwn neu pancetta a chnau castan (gweler isod), felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw peth i’r naill ochr wrth baratoi eich selsig bach mewn bacwn. Gallwch gadw’ch sbrowts yn ffres yn hirach drwy ddysgu ambell i hac storio gwych.

Os gwnaethoch chi brynu mwy o sbrowts nag oedd eu hangen arnoch Ddydd Nadolig, gallech eu gweini yn ein stwnsh tatws a chabetsh blasus – mae blas ‘chwaneg hwn, ac mae’n hawdd i’w wneud. 

Cnau castan

Cnau castan yn rhostio ar y tân… dyna’r naws Nadoligaidd! Mae cnau castan mor boblogaidd yr adeg hon o’r flwyddyn bod cân wedi’i hysgrifennu amdanynt! Ond maen nhw’n wych ar gyfer mwy na’u rhostio yn y lle tân – mae’r cnau hyn yn ychwanegu blas at amryw o’ch hoff fwydydd Nadoligaidd, yn cynnwys torth cnau rhost, sy’n ddewis llysieuol amgen traddodiadol ar gyfer cinio Nadolig. Ac, fel y gwnaethom sôn, maen nhw’n ychwanegiad bendigedig i ddysgl o sbrowts blasus i gyd-fynd â’ch prif bryd, ynghyd â bacwn crimp. 

Llugaeron

Mae’r aeron hyn fel gemau bychain gloyw, ac maen nhw’n un o hanfodion danteithion cyfnod y Nadolig. Mae’r parseli llysiau a chnau castan wedi’u rhostio y gwnaethom eu disgrifio uchod yn berffaith i’w mwynhau gyda caws a llugaeron. Gallwch ddefnyddio’r aeron bach hyn hefyd yn eich pobi, mewn rysetiau fel ein myffins bananas a mêl, neu mewn prydau sawrus sy’n defnyddio’r twrci Dolig dros ben, fel ein rysáit twrci’r gaeaf wedi’i frwysio neu basteiod llugaeron a thwrci

Pannas

Yn olaf, ni fyddai’r un cinio Dolig yn gyflawn heb bannas blasus wedi’u rhostio mewn mêl. Os gwnaethoch chi brynu gormod o pannas, na phoener – mae digon o ffyrdd blasus o’u defnyddio, gyda chawliau cynhesol gaeafol yn fan amlwg i ddechrau. Fe wnaiff ein hash tatws a llysiau diwastraff ddefnyddio eich pannas dros ben, ynghyd â bron unrhyw lysiau eraill sydd gennych sydd angen eu bwyta. Neu beth am ddewis amgen blasus ar gyfer selsig a stwnsh ar ffurf ein selsig, winwns a thatws pob

Os yw’r syniadau hyn wedi’ch temtio, ewch i fwrw golwg ar ein banc rysetiau am fwy fyth o ysbrydoliaeth ar gyfer cynllunio prydau mis Rhagfyr. Cofiwch alw heibio’r mis nesaf i ddarganfod beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Ionawr! 

 

Rhannu’r post blog hwn