Skip page header and navigation

Winwns

Rhewi? Yes
Tymor Drwy gydol y flwyddyn
Storio Mewn cwpwrdd oer
Ffynhonnell dda o fitamin C
Pentwr o winwns cyfan ac wedi’u torri

Mae winwns yn llysieuyn poblogaidd a gaiff ei ddefnyddio mewn llawer o seigiau sawrus. Maen nhw’n rhan o ddosbarthiad aliwm y teulu lilis, ynghyd â chennin, garlleg a chennin syfi, ac maen nhw ar gael mewn amrywiaeth o siapau, meintiau, blasau a lliwiau, yn cynnwys shibwns a winwns coch a gwyn. Maen nhw’n ychwanegu at ddwyster rysetiau fel cawl, stiw a chyri, a gellir eu bwyta’n amrwd mewn salad hefyd. Maen nhw’n llawn daioni, yn cynnwys fitamin C a ffibr.

Sut i'w storio

Sut i storio winwns ffres

Dim ond shibwns y dylid eu cadw yn yr oergell. Y lle gorau i gadw winwns brown, coch a gwyn yw mewn lle oer, sych, tywyll, yn ddelfrydol mewn bag brethyn.

Rhewi winwns

Gellir rhewi winwns mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio winwns wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Winwns – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Os mai dim ond hanner winwnsyn y mae ei angen arnoch, gallwch dorri’r gweddill a’i rewi i arbed amser y tro nesaf y byddwch yn coginio ar frys – gellir eu coginio’n syth o’r rhewgell. 

I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. 

Gallwch eu defnyddio yn eich coginio yn syth o’r rhewgell, neu defnyddiwch ficrodon ar ‘dadmer’ yn syth cyn eu coginio neu eu haildwymo. Dylid gwirio’r canllawiau ar becynnau bwydydd wedi’u rhewi bob amser. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Shibwns: Does dim angen rhoi’r gorau i dorri pan gyrhaeddwch y darnau gwyrdd ar shibwns – mae pennau gwyrdd cennin a shibwns yn llawn blas ac yn berffaith iawn i’w bwyta. Defnyddiwch nhw yn yr un ffordd ag yr ydych yn defnyddio gweddill y winwnsyn.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Ychwanegwch winwns dros ben at fag stoc a’i gadw yn y rhewgell gyda seleri a moron fel sylfaen llawn blas ar gyfer gwneud cawl, stiw a sawsiau pasta. Gallwch sleisio (neu gratio) bresych amrwd, moron a winwns a’u cymysgu mewn mayonnaise i wneud colslo cartref hawdd a sydyn.

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch brynu winwns rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn a ddefnyddiwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.

Ystyriwch gyfnewid winwns ffres am winwns wedi’u rhewi (dim dagrau!). Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

Prynwch winwns llai am eu bod yn aml yn rhatach ac mae llai o wastraff os mai coginio i un ydych chi.

 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Winwns

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Winwns

Rysáit blasus a hawdd sy'n berffaith fel cwrs cyntaf, prif gwrs neu fwyd parti.

Tarten_winwns_coch_a_chaws_gafr

Rysáit flasus, cyflym a hawdd ar gyfer draenog y môr sy'n dda ar gyfer defnyddio hufen sengl a lemwn dros ben.

Dau ddarn o ddraenog y môr yn coginio mewn padell ffrio gyda pherlysiau

Brecinio diwastraff blasus, sy’n defnyddio’r daten, pannas, brocoli, shibwns a pherlysiau yn gyfan (coesynnau, crwyn a’r cwbl). Neu gallwch eu cyfnewid am unrhyw lysiau dros ben sydd gennych yn y tŷ!

crispy hash browns circling a dipping sauce