Skip page header and navigation

Pannas

Rhewi? Yes
Tymor Medi-Mawrth
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell dda o fitamin C
Cwpl o bannas amrwd

Mae pannas yn rhan o deulu’r Apiaceae sy’n cynnwys seleri, persli a ffenigl. Gwreiddlysieuyn poblogaidd a gaiff ei ddefnyddio gydol y flwyddyn, gellir ei weini wedi’i rostio, wedi’i stemio, neu wedi’i stwnsio, yn ogystal â bod yn ychwanegiad gwych i gawl neu stiw.

Sut i'w storio

Sut i storio pannas ffres

Yr oergell yw’r lle gorau i gadw pannas.

Rhewi pannas

Gellir rhewi pannas mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio pannas wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Pannas top tips

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Gellir rhewi pannas yn amrwd neu wedi’u coginio. Gallwch eu blansio mewn dŵr berw am ychydig funudau a’u hoeri mewn dŵr rhew neu eu rhostio yn y ffwrn cyn eu rhewi.

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. 

Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn coginio/aildwymo. 

Dylech wirio’r canllawiau ar y pecyn ar fwydydd o’r rhewgell bob amser.

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Does dim angen plicio pannas bach neu ifanc – dim ond rhoi sgwriad da iddyn nhw. Os oes angen ichi eu plicio, defnyddiwch bliciwr yn hytrach na chyllell gan y bydd hyn yn lleihau’r gwastraff. Defnyddiwch y crafion i wneud creision cartref. Ychwanegwch halen a phupur, a’u sesno gyda beth bynnag arall a ddymunwch, yna’u pobi mewn ffwrn boeth. 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gallwch ddefnyddio pannas dros ben mewn teisennau, yn union fel y byddech yn defnyddio courgette neu foron dros ben mewn teisen.

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch brynu pannas rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn a ddefnyddiwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.

Ystyriwch gyfnewid pannas ffres am bannas o’r rhewgell – mae rhai’n dod gyda’r mêl arnyn nhw’n barod! Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Pannas

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

Ffynhonnell dda o fitamin C sy’n helpu i gadw eich croen yn iach.

Mae’n ffynhonnell o botasiwm, mwyn sy’n helpu cyhyr y galon weithio’n iawn.

Mae pannas yn ffynhonnell o asid ffolig (un o’r fitaminau B), sy’n helpu’r corff ffurfio celloedd coch y gwaed iach.

 

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Pannas

Dyma bryd o fwyd ar gyfer bod yn greadigol gyda'ch bwyd dros ben. Gallwch eu cael yn boeth neu eu coginio'r noson cynt i’w gael i ginio’n oer yn eich gwaith. I gael y canlyniadau gorau, cadwch eich llysiau dros ben yn yr oergell gyda'ch cig rhost nes bydd eu hangen arnoch.

Platiaid o basteiod

Gellir rhoi ail fywyd i'r rhan fwyaf o lysiau gan ddefnyddio’r rysáit wych hon, sy'n berffaith ar gyfer cinio neu swper ysgafn.

Bara wedi’i dostio’n grimp gyda chaws a thomatos garlleg wedi’u taenu arno

Arbedwch y llysiau hynny o waelod yr oergell a rhoi bywyd newydd iddynt yn y cyri dyfeisgar hwn sydd mor ysgafn ag y mae'n iach. Rydym ni wedi defnyddio past cyri Madras (i roi cic ychwanegol) - gallwch chi ddewis eich ffefryn. Rhowch gyffyrddiad dilys iddo â reis basmati hefyd.

Cyri llyseiol mewn dysgl