Skip page header and navigation

Courgettes

Rhewi? Yes
Tymor Mehefin-Medi
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell dda o botasiwm.
Courgette cyfan wrth ymyl tafelli courgette

Mae courgettes yn rhan o’r un teulu â chiwcymbr, gwrd a melon, ac maen nhw’n fwyd poblogaidd am fod llawer o ffyrdd o’u defnyddio. Gellir eu defnyddio yn y rhan fwyaf o seigiau sawrus, yn ogystal â rhai seigiau melys. Mae courgettes yn hawdd eu coginio, a gallwch ddefnyddio’r courgette cyfan, felly mae’r holl ddaioni yn mynd i’r bwyd a fwytawn, yn hytrach nag i’r bin.

Sut i'w storio

Sut i storio courgettes ffres

Dylid storio courgettes yn yr oergell.

Rhewi courgettes

Gellir rhewi courgettes mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio courgettes wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Courgettes – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Torrwch nhw ar eu hyd a’u grilio cyn eu rhewi.

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’u dadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn coginio/aildwymo. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Does dim angen eu plicio, felly torrwch y ddau ben i ffwrdd a defnyddio’r courgette yn eich pryd bwyd. 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Courgettes dros ben?  Maen nhw’n wych wedi’u coginio neu’n amrwd. Defnyddiwch bliciwr tatws i’w sleisio’n rubanau ar gyfer salad, neu gallwch eu gratio a’u ffrio gyda garlleg a tsili i wneud pryd pasta blasus. Mae gratio courgette mewn tsili neu Bolognaise yn ffordd wych o gynnwys llysiau mewn pryd o fwyd heb i neb sylwi.

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch brynu courgettes rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn a ddefnyddiwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.

Os mai ar gyfer coginio rydych chi’n defnyddio courgettes yn bennaf, ystyriwch gyfnewid rhai ffres am gymysgedd courgettes, pupurau, planhigyn wy ac ati o’r rhewgell (gelwir hwn yn gymysgedd Môr y Canoldir weithiau). Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Courgettes

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Maen nhw’n ffynhonnell dda o fwn o’r enw potasiwm, sy’n helpu i reoli cydbwysedd hylifau yn y corff, a hefyd yn helpu cyhyr y galon i weithio’n iawn.
  • Mae’n ffynhonnell wych o fitamin C sy’n helpu i gynnal croen, pibellau gwaed, esgyrn a chartilag iach. 
  • Mae un dogn o gourgette yn cyfrif fel un o’ch 5 y dydd.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Courgettes

Mae torth fel hon yn ffordd flasus o ddefnyddio wyau a llysiau ac mae'n berffaith i'w rhannu.

Torth euraidd o fara wedi’i thafellu’n drwchus, gyda llysiau

Gall y saws amlbwrpas hwn ddefnyddio llu o gynhwysion a gellir ei baru â phasta neu wy – dau bryd mewn un!

a pasta topped with a light tomato sauce and sliced courgettes

Gellir rhoi ail fywyd i'r rhan fwyaf o lysiau gan ddefnyddio’r rysáit wych hon, sy'n berffaith ar gyfer cinio neu swper ysgafn.

Bara wedi’i dostio’n grimp gyda chaws a thomatos garlleg wedi’u taenu arno