Rhowch y cynhwysion hyn at ei gilydd yn y bore a bydd stiw blasus cynnes yn aros amdanoch pan fyddwch chi'n cyrraedd adref.

Mae madarch, math o ffwng, yn fwyd poblogaidd a gaiff ei ddefnyddio mewn llawer o wahanol rysetiau. Mae llawer o wahanol fathau ar gael, yn cynnwys madarch botwm, wystrys y coed, a madarch porcini. Maen nhw’n llawn maeth a daioni, a gellir eu coginio a’u bwyta’n amrwd
Yr oergell yw’r lle gorau i gadw madarch.
Gellir rhewi madarch mewn bag neu gynhwysydd aerglos am hyd at 3 mis.
Dylid storio madarch wedi’u coginio mewn cynhwysydd aerglos a’u defnyddio o fewn 7 diwrnod.
I’w rhewi: Gallwch rewi madarch yn amrwd neu wedi’u coginio. Sleisiwch nhw a’u rhoi ar glawr pobi neu debyg (i’w hatal rhag glynu at ei gilydd), a’u rhoi mewn cynhwysydd aerglos wedyn.
I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell.
Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn coginio/aildwymo.
Does dim angen plicio madarch – a pheidiwch â’u golchi chwaith. Mae madarch a dyfir fel cnydau trin yn eithaf glân, felly rhowch rwbiad sydyn iddyn nhw.
Gellir coginio madarch yn syth o’r rhewgell – opsiwn gwych ar gyfer swper cyflym fel omled.
Ffriwch fadarch dros ben, sydd wedi crebachu, mewn menyn neu olew i’w defnyddio fel topin pizza neu gallwch eu rhoi mewn stiw, saws neu gaserol, neu eu rhewi i’w defnyddio rywdro eto.
Defnyddiwch unrhyw fadarch wedi’u coginio na chawsant eu bwyta mewn rysetiau fel stiw, cawl neu gyri.
Os oes rhai ar gael, ystyriwch brynu madarch rhydd i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.
Ystyriwch gyfnewid madarch ffres am fadarch wedi’u rhewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach. Gallwch hefyd brynu madarch mewn tun a madarch sych.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Madarch yw un o’r ychydig iawn o ffynonellau fitamin D nad yw’n gynnyrch anifeiliaid. Mae hwn yn helpu i gadw esgyrn, dannedd, a chyhyrau’n iach.
Maen nhw’n cynnwys ffynhonnell o asid ffolig, sef un o fitaminau’r grŵp B, sy’n helpu’r corff ffurfio celloedd coch y gwaed.
Mae dogn o fadarch yn cyfrif tuag at eich 5 y dydd.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Rhowch y cynhwysion hyn at ei gilydd yn y bore a bydd stiw blasus cynnes yn aros amdanoch pan fyddwch chi'n cyrraedd adref.
Bwyd cysurus ar ei orau gan y cogydd arobryn Neil Forbes o Café St Honore yng Nghaeredin.
Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?