Os oes gennych chi lysieuwyr yn dod i'ch parti, byddan nhw wrth eu bodd â'r rhain; am fyrbryd mwy sylweddol gellir eu gweini hefyd mewn poced pita cynnes gyda saws tsili a salad.

Dyma fwyd poblogaidd yn y Deyrnas Unedig; mae ciwcymbr yn llawn microfaetholion ac yn gynhwysyn sylfaenol mewn salad a brechdanau. Mae ciwcymbrau yn rhan o’r un teulu â courgette, pwmpen a melon dŵr.
Storiwch giwcymbr yn ei becyn gwreiddiol yn yr oergell.
Nid yw ciwcymbr yn addas i’w rewi. Nid yw bwydydd gyda chynnwys dŵr uchel, fel letys a chiwcymbr, yn rhewi’n dda.
Does dim angen plicio ciwcymbr na thynnu’r hadau. Dim ond ei olchi cyn ei ddefnyddio.
Gallwch biclo ciwcymbr dros ben mewn dim ond 15 munud. Cymysgwch rubanau neu sleisys ohono gyda mesurau cyfartal o siwgr mân a finegr gwin gwyn ynghyd â’ch hoff berlysiau (mae dil yn arbennig o dda) neu sbeisys. Mae hwn yn flasus gyda physgod neu ar gyfer brechdanau.
Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Os nad ydych, neu na fyddwch, yn defnyddio ciwcymbr o faint safonol mewn pryd, rhowch gynnig ar un llai (gelwir y rhain yn giwcymbr ‘midi’ weithiau) – os oes rhai ar gael.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Os oes gennych chi lysieuwyr yn dod i'ch parti, byddan nhw wrth eu bodd â'r rhain; am fyrbryd mwy sylweddol gellir eu gweini hefyd mewn poced pita cynnes gyda saws tsili a salad.