Skip page header and navigation

Troellennau omled

Troellennau omled

Defnyddiwch wyau ychwanegol ac eitemau dros ben o'ch oergell yn yr omled tenau hwn sydd wedi'i rolio.

Mae'n well eu gwneud un diwrnod ymlaen llaw a'u hoeri cyn eu sleisio. Os oes gennych chi berlysiau ffres wrth law, defnyddiwch nhw, ond pheidio â defnyddio rhai ffres wedi'u sychu gan fod y blasau'n rhy gryf.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 24
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Troellennau omled bach wedi’u llenwi

Cynhwysion

8 wy
Llenwad fel ham, olewydd, caws hufen, eog wedi’i gochi – beth bynnag sydd gennych yn eich oergell
Ychydig o olew olewydd
Halen a phupur du
Perlysiau ffres fel persli, taragon, coriander neu basil (dewisol)
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes – mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Gwnewch yr omledau un ar y tro drwy gymysgu un wy mewn dysgl a’i guro gyda fforc, ac ychwanegu blas gyda halen a phupur a’r perlysiau (os ydych yn eu defnyddio).

  2. Cynheswch yr olew mewn padell tua 15cm mewn diamedr ac ychwanegu’r wy a gwyro’r sosban fel bod yr wy yn gorchuddio gwaelod cyfan y sosban, yna ei goginio am tua 45 eiliad, yna tynnu’r omled tra bod y top dal yn feddal.

  3. Trefnwch y llenwad a ddewiswyd (gweler isod) dros ddwy ran o dair o’r omled a rholiwch yn dynn, gan ddechrau o’r pen lle mae’r llenwad a gorffen ar ben gwag yr omled i greu tiwb hir. Lapiwch yn dynn mewn haenen lynu a’i oeri yn yr oergell dros nos. Bydd hyn yn sicrhau bod y llenwad yn aros yn dynn o fewn yr omled.

  4. I weini: dadlapiwch y parseli a defnyddio cyllell finiog i dorri’r omled wedi’i rolio yn gasgenni 3 cm. Trefnwch ar blât gweini.

  5. Mae llenwad a awgrymir yn cynnwys tafelli o ham a chaws hufen, tafelli o gaws Parma ac olewydd wedi’u torri neu gaws hufen ac eog wedi’i gochi.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.