Skip page header and navigation

Teisen oergell siocled dros ben

Teisen oergell siocled dros ben

Mae'r deisen oergell hawdd ei gwneud hon yn ffordd wych o ddefnyddio wyau Pasg siocled sydd dros ben, ac mae'n gwneud trît hyfryd ar gyfer y prynhawn!

Gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw fath arall o fisged blaen, a gallwch ddefnyddio unrhyw gymysgedd o gnau neu ffrwythau sych a allai fod gennych yn eich cypyrddau cegin.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Trionglau trwchus o deisen siocled o’r oergell gyda bisged wenith a malws melys

Cynhwysion

300g o wyau Pasg wedi'u torri – gall fod yn gymysgedd o siocled tywyll, gwyn neu blaen
250g o fisgedi gwenith
Neu unrhyw fath arall o fisged blaen.
125g o fenyn
150g o surop melyn
75g o resins
Defnyddiwch unrhyw gymysgedd o gnau neu ffrwythau sych sydd gennych.
75g o gnau cymysg, wedi'u torri'n fras
I addurno: cymysgedd o ddanteithion wyau Pasg dros ben

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Defnyddiwch bapur pobi i leinio dysgl neu dun hirsgwar, gan adael mwy o bapur yn gorwedd dros yr ochr ac yna ei roi i un ochr.

  2. Nesaf, rhowch y bisgedi mewn bag a’u malu â rholbren ac yna eu rhoi i’r ochr.

  3. Rhowch bowlen gwrth-wres dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi ac yna ychwanegu’r siocled wedi torri, y surop melyn a’r menyn. Trowch yn ofalus nes eu bod wedi toddi gyda’i gilydd ac yna tynnu’r ddysgl oddi ar y gwres.

  4. Ychwanegwch y bisgedi wedi’u torri, y rhesins a’r cnau wedi’u torri i mewn i’r gymysgedd a’u cymysgu’n dda i orchuddio popeth yn llwyr.

  5. Trosglwyddwch i’r ddysgl neu dun â phapur, gan ddefnyddio llwy bren i wthio’r cymysgedd i bob cornel.

  6. Gwasgarwch felysion dros y gymysgedd cyn ei roi yn yr oergell i oeri am 2-3 awr.

  7. Gan ddefnyddio ymylon y papur pobi, codwch a’i drosglwyddo i fwrdd a’i dorri’n dafelli, yna ei weini a’i fwynhau.

  8. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser a chael pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.