Skip page header and navigation

Tarten winwns coch a chaws gafr gyda phesto

Tarten winwns coch a chaws gafr gyda phesto

Mae’r rysáit hawdd a blasus hon gan y Cogydd Neil Forbes o Café St Honore yn berffaith fel cwrs cyntaf, prif gwrs neu fwyd parti.
Gan Neil Forbes
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Tarten_winwns_coch_a_chaws_gafr

Cynhwysion

3 winwnsyn coch, wedi'u plicio a'u haneru, yna wedi’u torri'n ddarnau mawr
Cofiwch wirio'r rhewgell am winwns sydd dros ben y gallech fod wedi'u torri a'u rhewi o'r blaen.
1 log o gaws gafr neu geuled gafr
Llond llaw o berlysiau fel basil, persli neu hyd yn oed garlleg gwyllt (wedi'i rewi, yn ffres neu'n sych)
1 ewin o arlleg
50g o gaws caled
Ychydig o gnau fel cnau cyll neu gnau pinwydd, neu hyd yn oed cnau Ffrengig
200ml o olew olewydd neu olew hadau rêp wedi'i wasgu'n oer
Halen a phupur
4 disg o does pwff
Llond llaw o berwr gerddi a berwr dwr

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 200 ° C

  2. I wneud y pesto, rhowch y perlysiau, y caws caled, y garlleg, y cnau, bron yr holl olew olewydd a phinsiad o halen a phupur i’w flendio mewn prosesydd bwyd.

  3. Cynheswch ychydig o olew mewn padell ffrio ac ychwanegu’r darnau o winwnsyn coch, yna ychwanegu blas a’i goginio am ychydig funudau ar wres uchel i dynnu’r amrwd oddi ar y winwnsyn.

  4. Rhowch lwy fwrdd o pesto ar bob cylchyn o does ac yn ychwanegu haen o winwnsyn, yna’r caws gafr. Pobwch yn y ffwrn am 10 munud neu tan fod y toes newydd ei goginio ac yn euraidd.

  5. Gweinwch gyda berwr gerddi a berwr y dŵr wedi’i drwytho ag olew a halen fel blas.

  6. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd neu fyrbryd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.