Skip page header and navigation

Stiw llysieuol gyda bresych a menyn

Stiw llysieuol gyda bresych a menyn

Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?
Gan Ken Harris, Cyngor Dinas Glasgow
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
a thick stew of mixed soft vegetables including courgette and onion topped with fresh thyme

Cynhwysion

1 brocoli, wedi'i dorri'n ddarnau bach
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych yn yr oergell. Gellir defnyddio asbaragws, pys a phob math o ffa yn lle brocoli.
1 blodfresych bach, wedi'i dorri'n ddarnau
½ pen seleri, wedi'i dorri'n fras
1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fras
1 bwnsiad o shibwns, gwyn yn unig, wedi'u torri'n fras
1 bwlb garlleg, clof gyda’r croen a'u cadw'n gyfan
Carton 500g o pasata
1 can o ffa menyn
1 cwpan o ddŵr
1 darn o fenyn
1 ciwb stoc llysiau
Halen a phupur

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Mewn padell fawr, toddwch ddarn o fenyn ac ychwanegu’r winwns, rhan gwyn y shibwns a’r ewin garlleg, a’u toddi dros wres isel am 2-3 munud.

  2. Ychwanegwch y llysiau sy’n weddill a’u ffrio’n ysgafn.

  3. Ychwanegwch y passata, y dŵr, y ffa menyn, y stoc a’r halen a phupur.

  4. Rhowch gaead ar y sosban a choginio’r cynhwysion am 60 munud, gan wirio’n rheolaidd i droi ac ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen.

  5. Paratowch y bresych â menyn ac ychwanegu’r bresych wedi’i dorri’n fân i sosban gydag ambell lwy fwrdd o ddŵr a’u coginio tan eu bod yn feddal. Draeniwch unrhyw ddŵr sy’n weddill a chymysgu darn o fenyn yn y gymysgedd ac ychwanegu blas gyda halen a phupur.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.