Skip page header and navigation

Sglodion trwchus wedi'u grilio

Sglodion trwchus wedi'u grilio

Mae'r pryd neu'r byrbryd blasus hwn yn ffordd wych o ddefnyddio tatws.
Gan Albert Bartlett
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Dysgl yn llawn lletemau tatws gyda chaws tawdd

Cynhwysion

4 taten
Nid oes angen eu plicio, dim ond eu golchi’n dda!
2 letys bach, wedi'u torri'n chwarteri
2 domatos eirin aeddfed
Neu unrhyw domatos sydd angen eu defnyddio
1 ewin garlleg, wedi'i blicio a'i fathru
Hanner lemwn wedi'i wasgu
Bydd eich ffrwythau'n para tair gwaith yn hirach os cânt eu storio yn yr oergell!
3 llwy fwrdd o olew olewydd
Halen a phupur

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch y tatws mewn dŵr hallt oer a’u mudferwi’n ysgafn tan eu bod wedi coginio ac yna gadael iddynt oeri ac yna eu draenio.

  2. Torrwch bob taten yn 6 darn ac yna eu brwsio gydag ychydig o olew olewydd.

  3. Griliwch dros wres uchel, pan fyddant wedi’u marcio’n dda eu rhoi i un ochr a’u cadw’n gynnes.

  4. I wneud y dresin, rhowch yr holl gynhwysion ar wahân i’r letys mewn cymysgydd tan ei fod yn llyfn.

  5. Hidlwch trwy ridyll a gwasgaru’r dresin dros y letys cyn ei weini gyda’r tatws cynnes wedi’u grilio.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Maen nhw’n well pan maen nhw’n cael eu gweini’n ffres. Pobwch yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth ac ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Keep your fridge at 5°C or below

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.