Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauDylech sterileiddio jar wydr y gellir ei ail selio, gan ddefnyddio sebon a dŵr poeth.
Torrwch y topiau oddi ar y tsilis a phlicio’r garlleg a’u rhoi yng ngwaelod y jar gyda’r moron, pupur coch neu lysiau eraill rydych chi wedi dewis eu defnyddio ar gyfer blas ychwanegol.
Gwnewch eich heli trwy droi halen i’r dŵr tan ei fod wedi hydoddi. Efallai y byddwch am wneud hyn ar yr hob i gyflymu’r broses ond gwnewch yn siŵr bod eich heli wedi’i oeri’n llawn cyn ei ddefnyddio.
Arllwyswch yr heli dros eich tsilis a’ch llysiau gan sicrhau eu bod wedi suddo. Cofiwch, mae ‘o dan yr heli yn iawn’.
Storiwch mewn lle cynnes allan o olau haul uniongyrchol am 2-3 diwrnod ac yna agor y jar a throi’r cynnwys bob dydd.
Unwaith y bydd yr heli wedi mynd yn gymylog a bod arogl ychydig yn sur iddo, arllwyswch y cynhwysion allan o’r jar a’u blendio nes eu bod yn llyfn. Tynnwch rywfaint o’r hylif heli yn dibynnu pa mor drwchus yr hoffech i’ch saws poeth fod.
Arllwyswch yn ôl i jar neu botel wydr a’i storio yn yr oergell a’i ddefnyddio gydag pha bynnag saig y dymunwch, neu i ychwanegu blas ychwanegol at sawsiau pasta.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.